Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg
Heddiw, rydym yn cyhoeddi’r cwricwlwm a’r deunyddiau asesu newydd i roi adborth arnynt.
Mae hon yn foment bwysig ar ein taith i ddiwygio addysg a amlinellir yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl. Mae’r dogfennau hyn yn ganlyniad tair blynedd o gyd-ddatblygu manwl gyda’r proffesiwn addysg drwy ysgolion arloesi, mewn partneriaeth â’r consortia rhanbarthol, Estyn, Cymwysterau Cymru ac ystod o randdeiliaid ac arbenigwyr eraill. Hoffwn ddiolch i’r rhwydwaith o weithwyr proffesiynol sydd wedi bod yn rhan o’r broses ddatblygu am eu harbenigedd a’u hymroddiad. Mae’r ymdrech hon ar y cyd, yn ymgorfforiad o’r hyn y gall cenhadaeth ein cenedl. Sef cydweithio er lles Cymru, fod mewn gwirionedd
Mae’r dogfennau a gyhoeddir heddiw yn cynnwys: Canllawiau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru 2022; canllawiau drafft ar y chwe Maes Dysgu a Phrofiad a chynigion Asesu fel sail i ddatblygu canllawiau statudol. Gellir dod o hyd i’r rhain ar: https://hwb.llyw.cymru/.
Am y tro cyntaf, bydd gan Gymru gwricwlwm sydd â phedwar diben sy’n rhoi llais i’r hyn yr ydym eisiau ei weld ar gyfer ein pobl ifanc, erbyn iddynt gyrraedd 16 oed.. Dyma’r pedwar diben hwnnw: meithrin dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n gyfranwyr mentrus, creadigol, yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus ac yn unigolion iach a hyderus.
Mae’r athrawon, yr ymarferwyr eraill a’r arbenigwyr sydd wedi bod yn gweithio ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad drafft wedi eu creu ar sail yr hyn y maen nhw’n gredu sy’n bwysig i ddysgwyr, sef yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sy’n ffurfio addysg gyflawn, o safon sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth mewn byd sydd yn newid yn gyflym.
Mae Cwricwlwm i Gymru 2022 wedi ei gynllunio fel fframwaith cenedlaethol ar gyfer dysgwyr 3 i 16 er mwyn rhoi cymorth i weithwyr proffesiynol ddatblygu eu cwricwla lefel ysgol, sy’n caniatáu iddynt fod yn hyblyg i addysgu a dysgu mewn modd sy’n bodloni anghenion penodol eu dysgwyr yn eu cyd-destun a’u cymunedau.
Mae heddiw yn ddechrau cyfnod newydd o gyd-ddatblygu’r cwricwlwm newydd.
Rwy’n gofyn am yr ystod ehangaf bosibl o sylwadau ar y fframwaith drafft hwn, o sylwadau gan brifysgolion a cholegau i ddiwydiant; gan sefydliadau ieuenctid i fusnesau a chyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Bydd hyn yn hanfodol, oherwydd bydd y gwaith o fireinio’r canllawiau ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn digwydd ar sail yr adborth hwn. Bydd Cwricwlwm i Gymru 2022 ar gael, yn ei ffurf ddiwygiedig ym mis Ionawr 2020 i’w ddefnyddio ym mis Medi 2022 mewn ysgolion cynradd ac ym mlwyddyn 7. Yna, bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu fesul cam mewn ysgolion uwchradd flwyddyn ar ôl blwyddyn..
Mae’r cyfnod adborth hwn yn dilyn yr ymgynghoriad ar Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol: Cynigion am fframwaith deddfwriaethol newydd. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 25 Mawrth ac rwy’n ddiolchgar i bawb a anfonodd ymateb. Daeth dros 2000 o ymatebion i law, gan gynnwys ymatebion ymgyrch, ac rwyf wrthi yn eu hystyried ar hyn o bryd.
Byddaf yn ystyried yr adborth a ddaw i law o’r ymgynghoriad yn ofalus er mwyn llywio’r penderfyniadau o ran fframwaith deddfwriaethol y cwricwlwm ac mewn perthynas â’r materion mwy penodol yr ydym wedi ymgynghori arnynt. Serch hynny, ar sail yr adborth, mae’n fwriad gen i fod yn fwy eglur ynghylch y disgwyliadau cenedlaethol mewn deddfwriaeth, a hynny mewn perthynas â chwmpas y cwricwlwm lefel ysgol a chynnydd.
Byddaf yn cyhoeddi crynodeb llawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn cadarnhau’r dull gweithredu o ran polisi arfaethedig maes o law.