Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Pan gefais fy mhenodi’n Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, roeddwn yn awyddus 
i gwrdd â phrentisiaid i gael trafod eu profiadau a’u barn am brentisiaethau.

Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi teithio ledled Cymru ac wedi cwrdd ag amrywiaeth eang o gyn-brentisiaid; o’r rheini a gymhwysodd yn ôl yn yr 1970au a’r 80au, a rhai ohonynt bellach yn berchnogion busnesau llwyddiannus neu’n Rheolwyr Gyfarwyddwyr; i’r rheini sydd wedi eu cwblhau’n fwy diweddar; ac eraill sy’n dal i ddilyn un o’r fframweithiau prentisiaeth sydd ar gael yng Nghymru heddiw.  

Roedd amrywiaeth y sectorau sy’n eu cynnig yn destun rhyfeddod imi, o’r diwydiannau peirianneg ac adeiladu traddodiadol i’r prentisiaethau mwy newydd, llai traddodiadol, fel rheoli, lletygarwch a gwasanaethau ariannol, i enwi ond ychydig.

Eto i gyd, pryd bynnag y dilynwyd y prentisiaethau, neu ym mha sector bynnag, roedd pawb yn credu’n gryf bod prentisiaethau wedi bod yn sbringfwrdd gwych i lwyddiant.  

Nid yw hyn yn syndod wrth gwrs. Mae ein rhaglen brentisiaethau yng Nghymru heddiw yn gryfach nag erioed, dan arweiniad rhwydwaith o ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith, ac mae’r cyfraddau cwblhau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol uchel.
 
Roeddwn am ddysgu drosof fy hun beth yn rhagor y gallem ac y dylem fod yn ei wneud i annog pobl ifanc yng Nghymru i ddilyn y llwybr hwn sydd wedi ei brofi ei hun yn gymaint o lwyddiant. Yn ddiddorol iawn, roedd themâu cyffredin yn codi.  

Roedd yna neges glir ynghylch yr angen i wella’r wybodaeth, y cyngor a’r canllawiau a roddir i bobl ifanc am  brentisiaethau ac i roi cefnogaeth i bobl ifanc, ar adegau pontio allweddol, er mwyn iddynt allu gwneud dewis synhwyrol ynghylch eu dysg a’u gyrfa. 
Mae’r ‘teulu’ o sefydliadau sy’n darparu addysg, gwybodaeth, cyngor a chanllawiau ym maes gyrfaoedd yn amrywiol ac yn cynnwys ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant, gwasanaethau ieuenctid, Gyrfa Cymru, y Ganolfan Byd Gwaith a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Addysg Uwch.

Rwy’n cadeirio Fforwm Strategol Cymru ar gyfer Datblygu Gyrfa, sy’n tynnu ynghyd aelodau’r teulu gyrfaoedd hwn a chynrychiolwyr cyflogwyr. Mae prif themâu’r Fforwm yn cynnwys datblygu sgiliau pobl ifanc i reoli eu gyrfa; y cysylltiad rhwng addysg a chyflogwyr (gan gynnwys profiad gwaith);  ac atebolrwydd pob carfan. Mae hwn yn fforwm delfrydol i ystyried sut i gynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o brentisiaethau.  

Mae Cynllun Gweithredu ein Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn amlinellu ein dull o gryfhau’r cysylltiad rhwng cyflogwyr ac ysgolion. Byddwn yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid i ddatblygu prosiect strategol i wella’r cysylltiad rhwng cyflogwyr ac ysgolion a meithrin gallu ysgolion i gyflwyno Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith yn fwy effeithiol.  

Bydd ein prosiect STEM a gomisiynwyd yn ddiweddar hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc, rhieni ac athrawon o’r llwyddiannau sy’n gallu dod yn sgil prentisiaethau yn y sectorau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.

Yn ystod y cyfarfodydd diweddaraf, rwyf hefyd wedi clywed am yr angen i ddangos i bobl ifanc, mewn termau real, yr hyn y gellir ei gyflawni, yn dilyn prentisiaeth, gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn o gyn-brentisiaid sydd wedi mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych yn eu gyrfa.  

Mae yna lawer o lysgenhadon uchel eu proffil yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i helpu i godi ymwybyddiaeth o brentisiaethau ymhlith ein pobl ifanc. Byddwn yn parhau i gydweithio â’r rhwydwaith hwn o hyrwyddwyr prentisiaethau a’i ehangu, fel y gall pob person ifanc weld gwerth y prentisiaethau hynny sydd wedi arwain at y fath lwyddiant yn y gorffennol, a chael eu hysbrydoli.  

Clywais hefyd fod angen inni wneud mwy i ddathlu llwyddiant ein prentisiaid. Rwy’n gwybod bod yna arferion da yn cael eu dilyn eisoes o fewn y rhwydwaith Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae rhai prentisiaid eisoes wedi cael y cyfle i ddathlu eu llwyddiant gyda’u ffrindiau, eu teuluoedd a’u cydweithwyr; mae seremoni’r Gwobrau Prentisiaeth Cenedlaethol blynyddol yn enghraifft o hyn. Rwyf am i bob prentis gael y cyfle hwn.

Mae dathlu llwyddiant yn bwysig ym mhob amgylchedd; mae’n cadarnhau’r atgof o lwyddiant ac yn ysbrydoli unigolion i’r dyfodol. Mae prentisiaethau yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru, ac mae’n iawn trefnu cyfle i gydnabod a dathlu llwyddiant pawb. O fis Ebrill 2015, bydd yn gyfrifoldeb ar ddarparwyr a gyllidir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu prentisiaethau roi’r cyfle i bob prentis gael dathlu cwblhau eu prentisiaeth mewn seremoni ffurfiol sy’n debyg i seremoni raddio.

Nid oes cyfle gwell i godi ymwybyddiaeth o’n prentisiaethau a dathlu eu llwyddiant nag yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (3–7 Mawrth 2014).  
Rwyf am annog pawb sy’n gysylltiedig â phrentisiaethau i ddefnyddio’r platfform hwn fel cyfle i ddangos i bobl ifanc yr hyn sydd gyda ni yma yng Nghymru – rhaglen brentisiaethau o’r radd flaenaf a thocyn i lwyddiant yn y dyfodol.