Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Mae tai yn faes sy’n cael blaenoriaeth uchel gan y Llywodraeth hon ac rwyf yn falch o fedru datgan heddiw fy mod yn cyhoeddi papur pwysig, ‘Cwrdd â’r Her Tai - Creu consensws ar gyfer gweithredu’.

Rwyf wedi mynd ati yn y papur hwn i nodi’r syniadau sydd gennyf am ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau, gan wneud hynny yng ngoleuni’r heriau sylweddol sy’n ein hwynebu. Mae gwahaniaeth barn, oes, ond mae llawer iawn o dir cyffredin hefyd ac rwyf am geisio creu consensws am y camau deddfwriaethol a’r camau eraill y mae angen eu cymryd. Rwyf yn gobeithio y bydd yn fodd i symbylu hyd yn oed mwy o drafod ar draws y pleidiau gwleidyddol, gyda sefydliadau, a chyda’r cyhoedd yn fwy cyffredinol. 

Mae cartref boddhaol yn rhan hanfodol o fywyd pawb. Mae’n effeithio ar bopeth, gan gynnwys iechyd a lles, addysg ein plant, y gallu i gadw swydd, a chryfder ein cymunedau. Mae’r hinsawdd economaidd sydd ohoni yn un anodd iawn i bobl ac i fusnesau fel ei gilydd ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud mwy i’w helpu. Mae buddsoddi mewn tai yn sbarduno’r economi ac mae adeiladwyr tai yn bwysig o ran creu cyflogaeth a meithrin sgiliau yn y sector adeiladu. 

Mae Llywodraeth Cymru yn deall pa mor bwysig yw tai ac mae’n ymrwymedig i sicrhau bod cartref boddhaol ar gael i bawb. Ond mae heriau mawr yn ein hwynebu ac nid ydynt yn rhai hawdd i’w datrys:

 

  • Nid oes digon o gartrefi ar gael i bawb am fod y boblogaeth yn cynyddu, am fod pobl yn byw yn hirach, ac am fod mwy o bobl yn dewis byw ar eu pen eu hunain;
  • Mae angen gwella llawer o dai, yn enwedig y rheini sy’n cael eu rhentu oddi wrth landlordiaid preifat a rhai o’r tai hŷn y mae pobl yn berchen arnynt;
  • Rhaid sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt er mwyn dod o hyd i gartref, a’i gadw, yn enwedig y bobl hynny sydd mewn amgylchiadau personol anodd iawn neu sy’n wynebu sefyllfaoedd argyfyngus yn eu cartrefi;
  • Mae’r cynnydd yng nghostau byw a’r newidiadau i fudd-daliadau yn effeithio ar bobl, ac mae’r effaith honno’n destun pryder;
  • Mae arian cyhoeddus yn brin, ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ynghylch sut i’w wario;
  • Rydym yn benderfynol o wneud gwahaniaeth ac rwyf yn edrych ar bethau y gallwn ni eu gwneud, gan gynnwys cyflwyno cyfreithiau newydd a chamau eraill. Ond nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hwn. Mae diwallu anghenion pobl o ran tai yn dibynnu ar ymdrechion ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, banciau a chymdeithasau adeiladu, cynrychiolwyr y diwydiant, elusennau a sefydliadau gwirfoddol.

 

Mae yna newyddion da – mae digon o syniadau a phosibiliadau eisoes. Er enghraifft, bod yn fwy llym gyda landlordiaid gwael, dod o hyd i ffyrdd gwell o fynd i’r afael â digartrefedd, sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, a defnyddio tir sy’n eiddo i’r Llywodraeth er mwyn adeiladu mwy o dai. Dyna i chi rai o’r atebion posibl. A bydd gwaith a wneir gan eraill, megis ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i dai fforddiadwy, yn gwneud cyfraniad pwysig at y camau a gaiff eu cymryd yn y dyfodol. 

Bydd mwy o drafod yn ein helpu ni i gyd i ystyried y cwestiynau mawr y mae angen eu hateb. Er enghraifft, beth yw’r blaenoriaethau? Ble dylem ganolbwyntio’n hymdrechion? Beth sydd angen ei wneud? 

Bydd y trafod a gaiff ei symbylu gan y papur a chan y safbwyntiau a ddaw i law mewn ymateb iddo yn sail i’r Bil Tai ac i gamau eraill. Byddaf yn cyhoeddi’r manylion y gwanwyn nesaf.  

Amgaeir copi o’r papur gyda’r datganiad hwn. Mae copïau ar gael hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru:  http://wales.gov.uk/consultations/housingcommunity/housingchallenge/?skip=1&lang=cy

Rwyf yn gofyn i bobl fynegi barn erbyn 17 Chwefror 2012 ac mae’r papur yn esbonio sut y mae mynd ati i wneud hynny.