Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ddiweddar, mae llawer o sôn wedi bod yn y cyfryngau am y Diwydiant Benthyciadau Diwrnod Cyflog, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau wedi dilyn hyn â chryn ddiddordeb. Yn y Datganiad Ysgrifenedig hwn, rwy’n rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau am y trafodaethau rhyngof i a’r Gymdeithas Cyllid Defnyddwyr (sef y corff sy’n cynrychioli 60% o’r Benthycwyr Diwrnod Cyflog) ac hefyd n rhoi ein barn am y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU ynghylch capio’r gyfradd log i’r Cwmnïau Benthyciadau Diwrnod Cyflog. Byddaf hefyd yn disgrifio’r hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru i gefnogi pobl drwy Undebau Credyd a Gwasanaethau Cynghori.

Cefais gyfarfod cadarn gyda’r Gymdeithas Cyllid Defnyddwyr ar 21 Tachwedd, gyda chyfle i fynegi barn yn gryf. Dywedais yn gwbl glir fy mod yn bryderus iawn ynghylch effeithiau gweithgareddau aelodau’r Gymdeithas. Yn sicr, nid benthycwyr diwrnod cyflog yw’r ateb i’r rheiny sy’n methu â thalu eu costau byw o ddydd i ddydd. Drwy gael benthyg arian fel hyn a hwythau eisoes mewn caledi, mae eu sefyllfa ariannol yn mynd o ddrwg i waeth. Dyna yw’r dystiolaeth gan gyrff fel y Canolfannau Cyngor ar Bopeth sy’n helpu’r rhai sydd wedi benthyca oddi wrth y Cwmniau Benthyciadau diwrnod Cyflog ac yn methu ag ymdopi gyda’r ad-daliadau beichus. Pwysleisiwyd i’r Gymdeithas Cyllid Defnyddwyr yr angen i sicrhau bod cwsmeriaid y benthycwyr diwrnod cyflog yn cael eu trin yn deg drwy fenthyca cyfrifol. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch y 15% o gwsmeriaid nad ydynt yn ad-dalu eu benthyciadau diwrnod cyflog ar amser. Yn aml, pobl agored i niwed yw’r rhain, a gall eu dyledion cynyddol gael effaith gwbl ddinistriol arnynt.

Pwysleisiwyd yr angen i’r benthycwyr Diwrnod Cyflog hyfforddi eu staff yn briodol er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud penderfyniadau priodol wrth fenthyca, ac yn sicrhau bod y cwsmeriaid yn gallu ad-dalu’r arian dyledus. Disgrifiwyd hefyd bwysigrwydd cael staff i sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau wrth gymryd benthyciad a’u bod yn gwybod faint o arian y bydd disgwyl iddynt ei ad-dalu.

Wrth gwrs, nid yw’r pwerau i reoleiddio’r Cwmniau Benthyciadau Diwrnod Cyflog wedi’u datganoli, a bydd Aelodau’r Cynulliad yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu bwriad i ddeddfu i gapio cost y benthyciadau hyn. Nid yw lefel y cap hwn wedi’i gyhoeddi eto – yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, sef y corf rheoleiddio newydd a ddaw i rym fis Ebrill 2014, fydd yn pennu hwnnw. Gosodir cyfyngiadau ar y taliadau a godir hefyd, gan gynnwys y ffioedd trefnu a chosbau, yn ogystal â’r cyfraddau llog. Byddai Llywodraeth Cymru’n croesawu’r cam hwn gan Lywodraeth y Du yn fawr iawn, gan ei fod yn lleihau cost Credyd i’r rhai sy’n penderfynu cymryd Benthyciad Diwrnod Cyflog.

Mae Llywodraeth Cymru’n edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am hyn wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Bydd yn ddiddorol gweld y manylion a lefel y capio ar y gyfradd log ac ar y taliadau gweinyddu a godir gan y benthycwyr. Fodd bynnag, bydd angen i hyn gael ei roi ar waith yn briodol. Er enghraifft, mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru wedi canfod bod y rhan fwyaf o bobl sydd wedi dioddef oherwydd benthycwyr anghyfreithlon wedi ceisio benthyg arian gan gwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog neu fenthycwyr stepen drws cyn hynny. Mae’n bwysig felly bod y gyfradd log yn cael ei gosod ar y lefel gywir a bod y benthycwyr yn cynnal y gwiriadau cywir ac yn rhoi’r wybodaeth briodol i’r cwsmeriaid am yr hyn y maen nhw’n ymrwymo iddo. Bydd hyn yn helpu i sefydlu arferion benthyca mwy cyfrifol.

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi gwaith sy’n ceisio gwella’r mynediad at gynnyrch ariannol fforddiadwy ac yn cynorthwyo darparwyr cyngor Cymru i helpu pobl sy’n cael trafferth rheoli eu dyledion. Hefyd, mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig taliadau bach i bobl agored i niwed nad ydynt yn gallu talu eu costau byw o ddydd i ddydd neu sy’n wynebu argyfwng ariannol.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd nifer o grantiau i gefnogi gwasanaethau cyngor am ddim, annibynnol, ar draws Cymru. Y flwyddyn ariannol hon, mae Llywodraeth Cymru’n rhoi dros £1 miliwn ar gael i gynorthwyo’r sector cyngor Di-elw i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau cynghori ar-lein am nifer o faterion, gan gynnwys dyledion a budd-dalidadau lles. Rydym hefyd yn buddsoddi bron i £2.5 miliwn tan 2015 i gefnogi prosiect allgymorth newydd a fydd yn rhoi cyngor ar ddyledion yn y 36 ardal Cymunedau’n Gyntaf.  Gwyddom o’r ymgynghoriadau diweddar a gynhaliwyd ei bod yn well gan bobl ar incwm isel gael cyngor wyneb yn wyneb a bod lleoliad y gwasanaethau cynghori’n ffactor pwysig o ran denu pobl i’w defnyddio.

O ran ein gweledigaeth hirdymor, mae fy swyddogion yn gweithio gyda chynrychiolwyr o’r sector cynghori Di-elw yng Nghymru, y Gwasanaethau Cyngor Ariannol a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod y cymorth a roddwn i wasanaethau cynghori yn y dyfodol yn cael ei seilio ar y dystiolaeth o’r angen a’r galw ac yn cael ei anelu at y bobl fwyaf anghenus.

Rydym hefyd yn cefnogi gwaith i sicrhau benthyca fforddiadwy, ynghyd â chyngor ymarferol syml ar y ffordd orau o reoli eich arian. Mae Undebau Credyd yn cynnig y gwasanaethau hyn, a gallan nhw fod yn arbennig o addas i bobl sy’n methu â benthyca arian gan ddarparwyr eraill megis banciau a chymdeithasau adeiladau. Yn gynharach y mis hwn, cyfarfu Llywodraeth Cymru ag Archesgob Cymru i drafod gwaith yr Undebau Credyd. Rydym yn cydweithio i hyrwyddo’r neges bod undebau credyd yn darparu gwasanaethau sy’n gallu helpu a chefnogi pobl ledled Cymru. Mae cais yr Undebau Credyd am gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon dan ystyriaeth ar hyn o bryd, ac rydw i’n gobeithio gwneud cyhoeddiad am hynny cyn bo hir.