Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Gwnaeth pandemig COVID-19 amlygu pwysigrwydd cysylltedd digidol da, yn y gwaith ac yn y cartref. Gwnaeth ganiatáu i bobl weithio o bell, galluogi busnesau i addasu i amgylchiadau newidiol a gwnaeth hefyd gefnogi ein plant wrth iddynt gael eu haddysgu gartref. Mae'r ymgyrch honno tuag at fywyd cynyddol ddigidol a gweithle digidol wedi parhau ar gyflymder y tu hwnt i'r cyfyngiadau a osodwyd arnom i gyd gan y pandemig. Mae'r ddibyniaeth gymdeithasol ac economaidd hon ar gysylltedd digidol yr ydym yn ei gweld yn gwaethygu'r effaith ar y safleoedd hynny sy'n parhau i wynebu anawsterau gyda materion cysylltedd.
Nid yw'r cyfrifoldeb dros fynd i'r afael â materion telegyfathrebu yng Nghymru wedi'i ddatganoli i Weinidogion Cymru. Llywodraeth y DU sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, gyda'r diwydiant telathrebu ac Ofcom. Fodd bynnag, rydym yn parhau i gamu i'r adwy lle y gallwn, gan sicrhau bod cartrefi a busnesau ledled Cymru yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy cyn gynted â phosibl. Rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynt y gwaith o ddosbarthu band eang ffibr llawn gydag Openreach.
Rwy'n falch o adrodd bod cam cyflawni'r prosiect bellach wedi'i gwblhau. Trwy'r prosiect darparu band eang tair blynedd hwn, mae mynediad at gysylltedd ffeibr llawn wedi'i ddarparu i 38,011 o safleoedd a gafodd eu cynnwys yn yr ardal ymyrraeth y cytunwyd arni. Yn ogystal â hyn, mae 6,042 o safleoedd eraill wedi cael cymorth o ganlyniad uniongyrchol i'n gwaith cyflwyno a gyllidir er nad ydynt wedi'u targedu gan y prosiect. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu'r safleoedd canlyniadol hyn ac felly rydym yn croesawu'n fawr y ffaith bod y gwaith ar eu cyfwer wedi'i gwblhau. Felly, mae gan gyfanswm o 44,053 o safleoedd fynediad at gysylltedd ffibr llawn, gan ragori ar ein targedau ar gyfer y prosiect. Roedd yr ymyrraeth hon yn targedu safleoedd lle nad oedd gan y farchnad unrhyw gynlluniau i ddosbarthu gwasanaethau band eang cyflym iawn. Ceir isod ddadansoddiad o'r safleoedd sydd wedi derbyn cyswllt yn ôl ardaloedd Awdurdodau Lleol.
Nid yw cyfanswm costau'r prosiect wedi'u cyfrifo'n derfynol hyd yma ac maent yn destun proses ddilysu ar hyn o bryd a fydd yn cymryd sawl mis i'w chwblhau; Fodd bynnag, credir ar hyn o bryd y bydd y prosiect wedi costio tua £50 miliwn yn erbyn cyllideb wreiddiol o £57 miliwn.
Er bod y prosiect hwn wedi cyflawni mwy na'r disgwyl ac ar gost is na'r disgwyl, rydym yn ymwybodol iawn bod diffyg cysylltedd yn parhau'n broblem i gartrefi a busnesau ledled Cymru O ran y cartrefi a'r busnesau hynny, mae ein cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru yn parhau i fod ar waith i helpu i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd ac rydym wedi cyflwyno proses ymgeisio ar-lein newydd sy'n ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i wneud cais am gymorth.
Mae ein Hadolygiad diweddaraf o'r Farchnad Agored yn cadarnhau bod safleoedd ledled Cymru sy'n parhau i ddisgyn y tu hwnt i gyrraedd buddsoddiad arfaethedig y farchnad. Felly, rydym wedi bod yn ymgynghori â'r farchnad ar ein cynlluniau i gynllunio a gweithredu ymyriadau ychwanegol sy'n targedu safleoedd o'r fath ac yn ymestyn cyrhaeddiad cysylltedd band eang cyflym ymhellach gan ddefnyddio cyllid sy'n weddill o gynlluniau cyflawni blaenorol. Rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaeth gyflawni Adeiladu Digidol Llywodraeth y DU drwy gydol y broses hon i sicrhau bod unrhyw ymyriadau a wnawn yn ategu gweithgarwch Llywodraeth y DU yng Nghymru. Mae'r achos busnes ar gyfer y gwaith hwn bron â chael ei gwblhau a byddaf yn rhoi diweddariad ar wahân i'r Aelodau ar y gwaith hwnnw maes o law.
Awdurdod Lleol | Safleoedd |
---|---|
Pen-y-bont ar Ogwr | 1299 |
Caerffili | 2943 |
Caerdydd | 870 |
Sir Gaerfyrddin | 3179 |
Ceredigion | 2503 |
Conwy | 1665 |
Sir Ddinbych | 1694 |
Sir y Fflint | 2144 |
Gwynedd | 4016 |
Ynys Môn | 1099 |
Merthyr Tudful | 468 |
Sir Fynwy | 1817 |
Castell-nedd Port Talbot | 780 |
Casnewydd | 292 |
Sir Benfro | 3509 |
Powys | 3444 |
Rhondda Cynon Taf | 1642 |
Abertawe | 469 |
Torfaen | 620 |
Bro Morgannwg | 1027 |
Wrecsam | 2531 |
CYFANSWM | 38011 |
Sylwer: Mae'r 6,042 o safleoedd canlyniadol ychwanegol yn cael eu mapio gan Openreach gan ddefnyddio system wahanol felly ni ellir eu cynnwys yn y tabl uchod.