Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Awst llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn: Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Wrth galon y cynigion oedd ein hymrwymiad i sicrhau sylfaen ddeddfwriaethol addas i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg i’n helpu i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  

Derbyniwyd 504 o ymatebion ysgrifenedig dros y cyfnod ymgynghori ac heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r ymatebion a ddaeth i law. Rwyf hefyd yn cyhoeddi’r cyfan o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r adroddiad yn dangos, ac eithrio yn achos un cwestiwn yn ymwneud â’r amlder y mae Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r Cynulliad ar ein strategaeth y Gymraeg, cefnogwyd ein cynigion gan y sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad.

Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a dreuliodd amser yn paratoi eu hymatebion i’r ymgynghoriad a byddaf yn parhau i ystyried yr ymatebion hyn yn ofalus i helpu i lywio ein polisi wrth symud ymlaen gyda Bil y Gymraeg.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y gwaith hwn maes o law.  


https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/bil-y-gymraeg-papur-gwyn