Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Datblygu Cynaliadwy yn agwedd allweddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Ar 3 Rhagfyr 2012 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ail ymgynghoriad ar gynigion i ddeddfu ynghylch datblygu cynaliadwy yng Nghymru. 

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys rhagor o fanylion ynghylch y cynigion a fydd yn sicrhau mai datblygu cynaliadwy fydd prif egwyddor drefniadol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac a fydd yn creu corff annibynnol ar gyfer datblygu cynaliadwy. 

Rwy’n cyhoeddi heddiw adroddiad yn crynhoi’r ymatebion i’r Papur Gwyn ar Ddatblygu Cynaliadwy.

Byddaf yn mynd ati yn awr i ystyried yr ymatebion yn ofalus yn unol â’m cyfrifoldeb cyffredinol am Ddatblygu Cynaliadwy. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir er lles y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.  

Bydd fy swyddogion yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid ar ôl yr ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cyflawni dros bobl Cymru, yn awr ac yn yr hir dymor.