Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw grynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad Cam 1 Llywodraeth Cymru ynghylch Treth Gyngor Decach. Amlinellodd yr ymgynghoriad raglen uchelgeisiol o ddiwygiadau fel man cychwyn ar ein taith tuag at wireddu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio i sicrhau treth gyngor decach a mwy graddoledig i Gymru.
Rydym yn gwybod bod y dreth gyngor yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel ysgolion a gofal cymdeithasol, yr ydym oll yn cael budd enfawr ohonynt. Mae’r dreth gyngor hefyd yn ddull allweddol o ran polisi ar gyfer sicrhau bod cyfraniadau ariannol pwysig gan aelwydydd yn cael eu dosbarthu’n deg. Rwyf wedi ymrwymo i ddiwygio’r system er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu ein hamgylchiadau economaidd presennol a rhai’r dyfodol, yn ariannu gwasanaethau sydd o fudd i bawb, yn ymgorffori diweddariadau rheolaidd er mwyn cadw’r dreth yn deg yn y dyfodol, a’i bod yn parhau’n dreth leol sy’n cysylltu pobl â chymunedau.
Gofynnodd yr ymgynghoriad am safbwyntiau cynnar gan unigolion, sefydliadau a rhanddeiliaid allweddol ynghylch tri maes eang o ddiwygiadau, gan gynnwys: ymarfer arfaethedig ar gyfer ailbrisio ac ailfandio eiddo, gan ddiweddaru’n rheolaidd yn y dyfodol; adolygiad o ddisgowntiau’r dreth gyngor, diystyriadau, eithriadau a phremiymau; ac adolygiad o’n Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, sy’n gynllun cenedlaethol. Roedd yr ymgynghoriad yn nodi’n glir na fyddai’r diwygiadau’n ceisio cynyddu cyfanswm y dreth gyngor a godir yn gyffredinol gan dalwyr y dreth gyngor.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 12 Gorffennaf a 4 Hydref 2022 a daeth dros 1,000 o ymatebion i law, gan adlewyrchu sbectrwm eang o safbwyntiau a buddiannau. Rwy’n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran.
Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus a byddwn yn myfyrio yn awr ynghylch yr wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb iddo, ochr yn ochr â thystiolaeth fanwl am weithrediad y system treth gyngor a’n huchelgeisiau ar gyfer diwygio’r dreth. Bydd yr ystyriaethau hyn yn llywio’r camau nesaf yr ydym yn eu cymryd i wneud y dreth gyngor yn decach. O ran yr achosion lle rydym yn bwriadu gwneud newidiadau yn y dyfodol, rwyf wedi ymrwymo i nodi’r rhain yn fanwl mewn ymgynghoriad Cam 2 yn ddiweddarach yn 2023.
Mae’r crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yma.
Mae’r rhaglen ddiwygio bwysig hon yn rhan o’n Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru. Byddaf yn parhau i weithio’n agos gyda’r Aelod Dynodedig, Cefin Campbell, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys llywodraeth leol, arbenigwyr ym meysydd prisio eiddo a materion economaidd-gymdeithasol, ac amrywiaeth o sefydliadau sy’n cynrychioli pobl Cymru. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu â dinasyddion ynglŷn â diben system decach a’r dull o’i chyflawni.
Mae’n uchelgais gennyf o hyd i gyflawni diwygiadau o sylwedd yn ystod tymor y Senedd hon, wrth i Gymru barhau i wynebu heriau digynsail ac argyfwng costau byw. Mae cryn dystiolaeth o fanteision system fwy graddoledig ac mae’n rhaid inni fwrw ymlaen â’n gwaith o leihau gwahaniaethau ac anghydraddoldebau o ran cyfoeth ledled Cymru.
Byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y datblygiadau wrth i’r gwaith fynd rhagddo.