Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 26 Mehefin 2012, cyhoeddais yr ymgynghoriad ar y cynigion i ddiwygio’r fframwaith deddfwriaethol ynghylch y ddarpariaeth i blant ag anghenion ychwanegol. Rwy’n cyhoeddi’r crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad mewn dwy ran. Heddiw rwy’n cyhoeddi’r crynodeb o’r ymatebion i Bennod 10 yr ymgynghoriad hwn sy’n delio â’r cynigion ar leoliadau arbenigol i ddisgyblion ôl-16.
Roedd yr ymgynghoriad yn rhoi manylion am y cynnig i roi’r cyfrifoldeb dros asesu’r angen am addysg bellach arbenigol, ei sicrhau a’i chyllido i awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys rhoi llety preswyl i ddysgwyr ag anawsterau dysgu. Ar hyn o bryd dyletswydd Gweinidogion Cymru yw hyn. Rwy’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i drosglwyddo’r ddyletswydd hon i awdurdodau lleol yn unol â’r cynnig.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 19 Hydref ac roedd yn bleser gen i dderbyn dros 200 o ymatebion gan rieni, plant, ysgolion, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, undebau athrawon, cyrff proffesiynol, Comisiynydd Plant Cymru a llawer mwy. Roedd mwyafrif yr ymatebion o blaid y cynnig. Mae manylion llawn yr ymatebion i’w gweld yma ar-lein.