Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar ryddhad ardrethi i elusennau ar gyfer ysgolion ac ysbytai yng Nghymru.   

Agorodd yr ymgynghoriad ar 31 Ionawr, ac yn sgil rhoi estyniad o bedair wythnos i gydnabod effeithiau pandemig y coronafeirws ar ymatebwyr posibl, daeth yr ymgynghoriad i ben ar 29 Mai.

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn a oes angen diwygio rhyddhad ardrethi i elusennau ar gyfer ysgolion ac ysbytai yng Nghymru. Mae casgliadau allweddol yr ymarfer ymgynghori yn dangos bod ymatebwyr â barn gymysg ynghylch rhyddhad i elusennau ar gyfer ysgolion ac ysbytai, gydag amrywiaeth o safbwyntiau’n cael eu cyflwyno. Defnyddir yr ymgynghoriad hwn i lywio’r gwaith o ddatblygu unrhyw gynigion polisi yn y maes hwn yn y dyfodol, sef cynigion a fydd eu hunain yn destun ymgynghori pellach.

Mae’r crynodeb o’r ymatebion ar gael yn:https://llyw.cymru/rhyddhad-ardrethi-i-elusennau-ar-gyfer-ysgolion-ac-ysbytai-yng-nghymru

Rwy’n gwneud y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach ar ôl y toriad os byddai o gymorth i’r aelodau.