Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Heddiw rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar yr wyth corff cyhoeddus ychwanegol y cynigir eu bod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant (Rhan 2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf LlCD).
Canfu’r ymgynghoriad fod ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion i ymestyn y ddyletswydd llesiant i’r wyth corff cyhoeddus datganoledig a restrir yn yr ymgynghoriad. Mae’r cynnig i ychwanegu’r cyrff cyhoeddus hyn yn cael ei weld yn eang fel cam amserol sy’n cael ei groesawu ac a fydd yn cryfhau seilwaith datblygu cynaliadwy yng Nghymru ac o fudd i’r Gymraeg. Mewn sawl maes gofynnwyd am eglurder pellach neu fwy o wybodaeth.
Mae’r prif feysydd a ddaeth i’r amlwg o’r ymgynghoriad yn cynnwys:
- Darparu mwy o fanylion ac eglurder ar sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei hadolygiad o gyrff cyhoeddus a nododd yr wyth corff cyhoeddus y cynigir eu bod yn ddarostyngedig i ddyletswydd llesiant Deddf LlCD, fel yr amlinellir yn yr ymgynghoriad.
- Parhau i ddarparu canllawiau ac adnoddau, a chyfeirio atynt.
- Parhau i hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng cyrff sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant.
- Rhoi pwyslais cryfach ar rwydweithiau cymorth i gyrff sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant, a chyfeirio atynt yn well.
- Cynnal archwiliad pellach o’r goblygiadau tebygol o ran adnoddau o ymestyn y ddyletswydd llesiant i’r cyrff cyhoeddus arfaethedig a’r partneriaid allweddol eraill.
- Darparu mwy o fanylion am rolau’r sefydliadau a’r partneriaethau allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a’r cymorth y maent yn ei gynnig i gyrff sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad wrth adolygu a chwblhau’r dull gweithredu i ymestyn y ddyletswydd llesiant. Byddaf yn diweddaru’r Aelodau yn dilyn y gwaith hwn.
Mae’r crynodeb o’r ymatebion ar gael yn yr Adroddiad Cryno ar yr Ymgynghoriad: Cyrff Cyhoeddus ychwanegol sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant (Rhan 2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd yr holl ymatebion hyn, ynghyd â’n hymgysylltiad uniongyrchol parhaus â’r cyrff ychwanegol arfaethedig, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ac Archwilio Cymru yn cael eu hystyried wrth inni ddatblygu ein cynlluniau i ymestyn y ddyletswydd llesiant (Rhan 2) o Ddeddf LlCD. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r cyrff, y Comisiynydd ac Archwilio Cymru i ddeall goblygiadau cost posibl y cynigion hyn, ac i ganfod ffyrdd o rannu’r hyn y mae’r rhai sydd wedi bod yn ddarostyngedig i Ddeddf LlCD ers 2016 wedi’i ddysgu.
Er mwyn helpu i baratoi’r cyrff ychwanegol arfaethedig, rydym wedi dod â chyrff cyhoeddus, y Comisiynydd ac Archwilio Cymru ynghyd i rannu gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio Deddf LlCD. Mae hyn wedi dangos budd cynnull a chysylltu sefydliadau sy’n cydweithio ar gyfer Cymru a dysgu sut i roi Deddf LlCD ar waith yn well.
Cynhelir yr adolygiad hwn ochr yn ochr â Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), a gyflwynwyd yn y Senedd ym mis Mehefin 2022, ac sydd wrthi’n mynd drwy’r broses graffu. Mae’r Bil yn darparu ar gyfer fframwaith i wella llesiant pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg, a chynnal caffael sy’n gyfrifol yn gymdeithasol. Bydd y cyrff a fydd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol arfaethedig yn adlewyrchu’r rhestr o gyrff sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd llesiant a restrir yn adran 6 o Ddeddf LlCD.