Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth nifer dda o ymatebion i law gan gyrff rhanddeiliaid ac unigolion i'r ymgynghoriad y gwnaethon ni ei gynnal y llynedd ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Cafwyd cyfanswm o 17,391 o ymatebion dros gyfnod yr ymgynghoriad ac mae Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried i gyd wrth baratoi'i chrynodeb.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Mynegwyd cryn gefnogaeth gan y cyhoedd i rai cynigion ond amrywiol oedd yr ymateb i rai eraill. Serch hynny, diolch i'r ymatebion, mae Llywodraeth Cymru wedi dod i ddeall yn well farn a safbwyntiau rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru.  Bydd hynny'n ein helpu i benderfynu sut i fynd â'n deddfwriaeth arloesol yn ei blaen a gwneud y gorau o'r cyfleoedd y mae ein hadnoddau naturiol yn eu cynnig gan eu diogelu yr un pryd ar gyfer y dyfodol.

Cyflawnodd yr ymgynghoriad ei bwrpas o ran casglu tystiolaeth a syniadau ar gyfer datblygu polisïau i reoli'n hadnoddau'n gynaliadwy.  Bydd hynny'n sail i'n ffyniant a'n lles tymor hir.

Bu'n gyfle hefyd i glywed barn ynghylch y buddiannau a'r heriau posib a ddaw wrth i'r DU adael yr UE, yn ogystal â chasglu barn am y drefn reoleiddio y bydd ei hangen o bosib yn y tymor byr a hir.  

Mae'n galonogol gweld bod cefnogaeth eang ar y cyfan i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru. Cynigiodd y rhanddeiliaid ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio a diogelu'r amgylchedd.  Gallai rhai ohonyn nhw fod yn atebion tymor hir yng nghyd-destun y newidiadau y bydd angen eu gwneud i'r drefn reoleiddio ar ôl gadael yr UE.

Mae'r crynodeb hwn a gyhoeddir heddiw yn asesiad niferol ac yn grynodeb gwrthrychol o sylwadau a safbwyntiau'r ymatebwyr. Mae cymdeithasau a grwpiau wedi cynnal 17 o ymgyrchoedd oedd yn gysylltiedig â chynigion penodol yn yr ymgynghoriad. Rydym wedi ystyried yr holl ymatebion i'r ymgyrchoedd a'r cyfraniadau unigol ar gyfer llunio'r ddogfen derfynol.

Mae fy swyddogion wedi ystyried elfennau unigol y ddogfen ymgynghori a'u hystyried ymhellach yng ngoleuni'r dystiolaeth a'r safbwyntiau a gyflwynwyd.

Cam nesa'r broses fydd paratoi amserlen briodol ar gyfer datblygu polisi dros y tymor byr a hir, yng nghyd-destun amcanion ehangach Llywodraeth Cymru ac wrth i'r DU adael yr UE.

Rwyf eisoes wedi datgan y caiff ein tirweddau dynodedig eu cadw ac na fydd unrhyw wanhau ar eu pwrpas o ran diogelu a chyfoethogi harddwch naturiol, a chaiff datganiad o flaenoriaethau arall ei gyhoeddi fel ymateb i'r amrywiaeth eang o sylwadau a ddaeth i law ar adroddiad Tirweddau Dyfodol Cymru a'r ymgynghoriad ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Rwy'n disgwyl ymlaen yn y dyddiau nesaf at roi datganiad ar y Strategaeth Goedwigaeth newydd fydd yn rhoi ystyriaeth i egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a'r ddeddfwriaeth newydd ers ei diweddaru y tro diwethaf yn 2009.

Byddwn yn ymdrin hyd yn oed yn fwy â datblygu economi 'gylchol' sy'n defnyddio adnoddau'n fwy effeithiol yn yr ymgynghoriad y bwriadwn ei gynnal yn ddiweddarach yn 2018 ar ddiweddaru'n strategaeth wastraff, 'Tuag at Gymru Ddiwastraff' a map ffordd drafft i greu Cymru sy'n defnyddio'i hadnoddau'n fwy effeithiol.

Mae cyfraniadau defnyddiol wedi dod i law fel ymateb i'r cynigion ar gyfer rheoleiddio'n well; rydym wedi'u hystyried a safbwyntiau eraill ynghylch yr angen am reoleiddio priodol ym maes rheoli tir ar ôl gadael yr UE yn y ddogfen "Brexit a'n Tir" y bwriedir ei chyhoeddi ddechrau Gorffennaf.

Clywyd safbwyntiau cryf ond amrywiol ynghylch sut orau i ddiwygio'r rheoliadau mynediad. Rydym o'r farn nad nawr yw'r amser gorau am ddiwygio sylweddol. Ond rydym wedi ymrwymo i ymchwilio i rai agweddau ar newid lle cafwyd mwy o gonsensws, gan gynnwys i rai o'r trefniadau gweinyddol a'r llwybrau aml-ddefnydd. Byddwn yn parhau i hwyluso rhagor o drafod trwy grwpiau fel y Fforwm Mynediad Cenedlaethol.

Yn yr un modd, rwy'n cydnabod bod cefnogaeth gref dros gyflwyno cosbau ariannol newydd i fynd i'r afael â phobl sy'n taflu sbwriel o'u cerbydau. Nododd yr ymgynghoriad nifer o broblemau â'r pwerau newydd a gynigir ac mae angen rhoi rhagor o ystyriaeth iddynt. Ar sail hynny, byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid ac yn ymchwilio sut orau i helpu Awdurdodau Lleol i gynnal y pwerau sydd ganddynt eisoes.

Mae cynllunio morol yn mynd rhagddo'n dda yng Nghymru ac rwy'n disgwyl ymlaen at gyflwyno Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Byddaf yn rhoi rhagor o ystyriaeth i gynlluniau rhanbarthol ar ôl inni gael profiad o roi'r cynllun cenedlaethol ar waith.

Caiff rhanddeiliaid a'r cyhoedd wybod am unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol trwy'r gweithgorau sydd wedi'u sefydlu a sianeli cyfathrebu eraill Llywodraeth Cymru.

Cewch weld y crynodeb sydd wedi'i gyhoeddi trwy'r ddolen ganlynol:

https://beta.llyw.cymru/bwrw-ymlaen-rheoli-adnoddau-naturiol-cymru-yn-gynaliadwy