Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Un o’r camau cyntaf y dywedais i y byddwn i’n eu cymryd pan fyddwn i’n cael fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg oedd ymgynghori ar gryfhau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion mewn perthynas â’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a wnaed o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, yn gosod gofynion y mae’n rhaid i gyrff perthnasol (Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a hyrwyddwyr eraill) weithredu yn unol â nhw. Mae’n cynnwys hefyd ganllawiau ymarferol y mae’n rhaid iddynt roi sylw priodol iddynt, ac mae’n amlinellu’r cyd-destun polisi, egwyddorion cyffredinol a ffactorau a ddylai gael eu hystyried gan y rhai sy’n cyflwyno cynigion i ad-drefnu darpariaeth ysgolion a’r rhai sy’n gyfrifol am benderfynu ar gynigion.

Cynhaliwyd ymgynghoriad 14 wythnos ar ddiwygiadau arfaethedig i’r Cod y llynedd. Rwy’n falch o ddweud bod yna gytundeb eang i bob un o’r cynigion. Cafodd y Cod drafft ei ddiwygio i adlewyrchu ymatebion i’r ymgynghoriad a’i osod gerbron y Cynulliad am 40 diwrnod ym mis Medi fel sy’n ofynnol gan Ddeddf 2013.  

Daeth y cyfnod o 40 diwrnod i ben ar 26 Hydref. Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi bod y Cod diwygiedig, sy’n cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig ac sy’n amlinellu’r dynodiad a’r rhestr gyntaf erioed o ysgolion gwledig i’r diben hwn, wedi dod i rym heddiw.  

Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu na fyddant byth yn cau. Fodd bynnag, rhaid i’r achos dros gau fod yn gryf ac ni ddylid gwneud y penderfyniad i gau ysgol hyd nes i bob opsiwn arall gael ei ystyried yn gydwybodol, gan gynnwys ffedereiddio.

Credaf y dylai’r broses o ystyried opsiynau eraill fod yn broses ddau gam, gyda’r cynigiwr yn gwneud hyn cyn hyd yn oed penderfynu mynd ati i gynnal ymgynghoriad a rhoi cyfle i bartïon â buddiant gyflwyno eu hawgrymiadau fel rhan o’r broses ymgynghori, y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol neu’r cynigiwr arall eu hystyried. Mae’r Cod diwygiedig yn darparu ar gyfer hyn.
Bydd y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn berthnasol i ysgolion a ddynodir yn ysgolion gwledig i’r diben hwn. Felly, roeddem yn awyddus i gael barn pobl ar ddynodiad priodol o ysgol wledig fel rhan o’r ymgynghoriad. Mae’r dynodiad a’r rhestr o ysgolion a amlinellir yn y Cod yn cael eu llywio gan ymatebion.  

Wrth gynnig cau ysgol, bydd hi’n ofynnol i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill wirio a yw’r ysgol ar y rhestr ac, os felly, bydd hi’n ofynnol i gynigwyr ddilyn cyfres o weithdrefnau a gofynion manylach wrth lunio cynnig i gau ysgol wledig, ymgynghori ar y cynnig hwnnw a gwneud penderfyniad ar a ddylid cyflwyno’r cynnig i gau ysgol wledig.

Daw’r Cod diwygiedig i rym ar 1 Tachwedd 2018 a bydd yn weithredol yn syth. Fodd bynnag, i sicrhau bod cynigwyr yn gallu cydymffurfio â’r Cod mewn perthynas ag ymgynghoriad, lle mae dogfen ymgynghori wedi’i chyhoeddi cyn y dyddiad dod i rym, sef 1 Tachwedd 2018, rhaid i gynigion gael eu cyhoeddi a’u pennu yn unol ag argraffiad cyntaf y Cod.

Mae’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn un o amryw o gamau rwy’n eu cymryd i gefnogi darpariaeth addysg yng Nghymru wledig fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Addysg Wledig. Mae’n cyfrannu at ein hymrwymiad i ddatblygu ymagwedd genedlaethol at ysgolion bach a gwledig o fewn y system sy’n gwella ei hun fel rhan o’n cenhadaeth genedlaethol.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i ni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddem yn hapus i wneud hynny.

Bydd y Cod diwygiedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar 1 Tachwedd am 9:00am. Dilynwch y ddolen isod.

https://beta.llyw.cymru/cod-trefniadaeth-ysgolion-0