Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi bod proses yn dechrau i edrych o'r newydd ar y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector.

Fy mwriad yw sicrhau bod y berthynas hanfodol hon mor gadarn ac effeithiol ag sy'n bosibl. Yn benodol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gefnogaeth a roddir gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau seilwaith y Trydydd Sector, gan gynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol a'r Canolfannau Gwirfoddolwyr, yn briodol ar gyfer yr amgylchiadau presennol ac yn sicrhau’r gwerth orau am arian.

Nid yw rhai o'r dogfennau allweddol sy'n sail i'r berthynas hon wedi'u diweddaru ers sawl blwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys Cynllun y Sector Gwirfoddol a'i Gynllun Gweithredu, ynghyd â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector.  Mae angen i ni sicrhau bod ein trefniadau gweithio ac ariannu’n cefnogi'r Sector ac yn ystyried y Rhaglen Lywodraethu. Rwyf yn awyddus i sicrhau bod y gefnogaeth a roddir i'r sector gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith sy'n mynd i'r afael â thlodi ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau.

Credaf fod lle i wella'r modd y mae Llywodraeth Cymru a'r Sector yn gweithio gyda'i gilydd. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynghylch yr hyn y gallwn ei gyflawni, rôl y Sector o fewn y gymdeithas yng Nghymru, y modd rydym yn ymgysylltu â'n gilydd a'r strwythur sy'n cefnogi'r sector.

Dymunaf i hon fod yn broses ar y cyd ac yn un agored. Byddaf yn manteisio ar wybodaeth a phrofiad ystod eang o sefydliadau'r Trydydd Sector ac unigolion ynghyd ag eraill sy'n meddu ar wybodaeth berthnasol a chanddynt ddiddordeb yn y broses hon.

Yn ddiweddarach eleni, cynhelir proses ymgynghori ffurfiol a bydd cyfle i bawb gyfrannu at y broses honno. Ar ddechrau'r flwyddyn hon, caiff grŵp cyfeirio ei ffurfio i lywio’r broses ymgynghori, a fydd yn cynnwys pobl o blith y Trydydd Sector, rhanddeiliaid allweddol a swyddogion. Ochr yn ochr â hynny, cynhelir nifer o weithdai anffurfiol ledled Cymru i geisio barn gwahanol rannau o'r sector. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn llywio'r berthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector, a'r modd y caiff y Sector ei hariannu.

Yn olaf, rwyf yn ymwybodol y bydd angen imi benderfynu ar drefniadau ariannu’r dyfodol yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ar hyn o bryd. Hoffwn i'r penderfyniadau hynny fod yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf a dealltwriaeth ar y cyd o'r blaenoriaethau.

Rwyf wedi cymeradwyo Cytundeb Partneriaeth interim a chyllid ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr 2013 a mis Mawrth 2014, hyd nes y cawn ganlyniad y broses ymgynghori.