Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi,
Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae datblygu a chryfhau’r Sectorau Sylfaenol sy’n cyflenwi’r nwyddau a’r gwasanaethau y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt, yn ganolog i gynllun Cryfhau ac Ailadeiladu’r Economi Llywodraeth Cymru.
Drwy gydol y pandemig, rydym i gyd wedi gweld a chydnabod mai Sectorau Sylfaenol economi Cymru, megis gofal cymdeithasol, bwyd, manwerthu ac adeiladu, yw’r pileri sydd wedi cadw ein cymunedau yn ddiogel.
Dylai fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom gymryd camau pellach i helpu i gryfhau ein Sectorau Sylfaenol dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Rydym wedi derbyn adroddiad sy’n crynhoi camau trawslywodraethol yr ydym wedi cytuno i’w cymryd er mwyn cryfhau a dyfnhau’r gefnogaeth ar gyfer hybu twf y sector bwyd yng Nghymru, a hynny drwy fanwerthu, lletygarwch, twristiaeth, a chaffael cyhoeddus. Mae’r sector bwyd yn rhan bwysig o’n diwylliant a’n heconomi, sy’n darparu 28,000 o swyddi ledled Cymru. Byddwn yn datblygu’r camau hyn er mwyn helpu’r sector bwyd i fod yn fwy gwydn, ac yn ymdrechu i nodi ffyrdd y gallwn dyfu ei weithlu, gan ymwreiddio egwyddorion Gwaith eg. Mae’r cam gweithredu hwn yn cyd-fynd â chynllun cyflenwi’r economi sylfaenol a gyhoeddwyd yn flaenorol, ac yn nodi’r camau ar gyfer datblygu cymorth a allai hybu twf ein Sectorau Sylfaenol ymhellach.
Mae’r cyfraniad hanfodol y mae bwyd yn ei wneud at ein llesiant yn cyfiawnhau’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar atgyfnerthu a thyfu’r rhan hon o’r economi. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru, a hybu’r ymgysylltu rhyngddynt, ac yn defnyddio pob dull polisi a chyflawni sydd ar gael er mwyn cryfhau’r Sectorau Sylfaenol.
https://llyw.cymru/beth-all-llywodraeth-cymru-ei-wneud-i-gynyddu-nifer-y-cwmniau-bbach-sydd-wediu-gwreiddio-ym-maes