Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar werthuso Mwy na geiriau, ein fframwaith strategol i gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ar 31 Awst. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar y pryd yn amlinellu'r prif ganfyddiadau ac yn cadarnhau fy mod wedi cytuno argymhelliad i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu cynllun gwaith pum mlynedd ar gyfer Mwy na geiriau.

Rwyf wedi cytuno ar aelodaeth a chylch gorchwyl y grŵp, sy’n cael eu cyhoeddi heddiw. Mae gan y grŵp sy’n cael ei gadeirio gan Marian Wyn Jones, cyfarwyddwr anweithredol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, y wybodaeth a'r arbenigedd i ddatblygu cynllun uchelgeisiol, a fydd yn helpu i gryfhau gwasanaethau Cymraeg ar draws y GIG a gofal cymdeithasol. Bydd y grŵp hefyd yn defnyddio arbenigedd pobl eraill yn ôl yr angen fel rhan o’i waith.

Cyfarfûm yn ddiweddar â chadeiryddion y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG ac fe'm calonogwyd bod consensws ynghylch pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg yn ystod y cyfnod heriol hwn, yn enwedig i'r rhai mwyaf bregus lle mae iaith yn fater o angen nid dewis.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ledled Cymru sy'n gweithio'n galed bob dydd i ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel.

Byddaf yn diweddaru aelodau ar y cynnydd.

Aelodaeth y grŵp:

Cadeirydd – Marian Wyn Jones, cyfarwyddwr anweithredol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynrychioli GIG Cymru

Sarah McCarty, o Ofal Cymdeithasol Cymru

Morwena Edwards, o ADSS Cymru

Dafydd Trystan. o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Huw Owen, o Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Mae cylch grochwyl y grŵp yn yr atodlen.

Atodlen

Cynllun Gwaith 5 mlynedd   Mwy na geiriau 

Grŵp Gorchwyl a Gorffen: Cylch Gorchwyl

Diben

  1. Datblygu cynllun gwaith 5 mlynedd newydd ar gyfer Mwy na geiriau yn seiliedig ar argymhellion y gwerthusiad a thystiolaeth arall. Bydd hyn yn cynnwys ystyried y materion allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad:  
  • sut i ymgysylltu a hyrwyddo lefel yr arweinyddiaeth sydd ei hangen i ysgogi newid; 
  • pwysigrwydd llwyfannau a systemau digidol Cymraeg; 
  • dysgu a sgiliau'r gweithlu;
  • rhannu arfer da a datblygu dull galluogi; 
  • ymgorffori'r Gymraeg mewn polisïau; 
  • strategaeth a naratif llafar cadarnhaol drwy gydol yr holl waith (Llais y Gymraeg)
  • rôl a phwrpas Bwrdd Partneriaeth y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y dyfodol (Bwrdd Partneriaeth).
  1. Bydd angen i'r cynllun gwaith hefyd ategu a chefnogi rhwymedigaethau a strategaethau polisi eraill, yn enwedig Safonau'r Gymraeg, Cymraeg 2050 cynllun gweithredu ar gyfer 2021-26 hefyd y Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 a Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  1. Bydd cynllun gwaith 5 mlynedd Mwy na geiriau yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn gynnar yn 2022.

 Trefniadau Adrodd

  • Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen (y Grŵp) yn cyflwyno adroddiad i'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol erbyn 5 Tachwedd. 
  • Bydd y cadeirydd neu ei enwebai yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Partneriaeth am gynnydd drwy e-bost yn y cyfarfod ar 9 Tachwedd 2021 ac yn gofyn am farn, a chyfeiriad ar faterion penodol. 
  • Bydd y cadeirydd yn cyfarfod o leiaf unwaith gyda chadeiryddion y Bwrdd Partneriaeth cyn i'r adroddiad fynd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

  • Bydd modd i’r cadeirydd, os oes angen, wahodd neu ymgynghori â chynghorwyr ychwanegol/allanol i roi mewnbwn i'r Grŵp/datblygiad o'r cynllun gwaith.

Aelodaeth

  • Bydd aelodaeth o'r Grŵp yn cynnwys unigolion sy'n cynrychioli'r sectorau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol ac addysg. Gall y grŵp hefyd gyfethol aelodau eraill i gefnogi'r gwaith.
  • Gofynnir i'r aelodau fynychu pob cyfarfod a fydd yn cael eu trefnu ymlaen llaw. Disgwylir i'r aelodau hefyd ymateb i gyfathrebu drwy e-bost o fewn 3 diwrnod gwaith.

Cadeirio cyfarfodydd

  • Caiff cyfarfod ei gadeirio gan Marian Wyn Jones a fydd yn rhoi adborth i'r Bwrdd Partneriaeth ac yn adrodd i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Rheoli cyfarfodydd

  • Uned Polisi’r Gymraeg, GIGC Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli’r cyfarfodydd ac yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddol ar eu cyfer.
  • Bydd y Grŵp yn cyfarfod o leiaf 4 gwaith yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd 2021. 
  • Bydd papurau cyfarfod yn cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog 3 diwrnod gwaith cyn y bydd cyfarfod a nodiadau cyfarfod yn cael eu dosbarthu o fewn 5 diwrnod gwaith i'r cyfarfod.
  • Cymraeg yw iaith gyntaf y cyfarfod a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg ar gael.
  • Cynhelir cyfarfodydd dros Microsoft Teams ac yn para am ddim mwy na 2 awr.