Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Ym mis Tachwedd, ysgrifennais at bob un o'r Arweinwyr Cynghorau yng Nghymru yn gofyn am fanylion y cronfeydd wrth gefn a ddelir ganddynt. Gofynnais hefyd am wybodaeth am eu strategaethau ar gyfer dal a defnyddio cronfeydd wrth gefn yn ogystal â manylion ymgysylltiad Aelodau Etholedig a gwaith craffu’r Aelodau Etholedig hynny. Rwyf yn disgwyl i’r Awdurdodau sefydlu’r trefniadau priodol ar gyfer herio mewnol ac allanol. Bydd y trefniadau hynny’n sicrhau bod cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau er mwyn mynd ati i weddnewid gwasanaethau. Mae angen gwneud hyn er mwyn rhoi gwasanaethau cyhoeddus ar sylfaen gynaliadwy ar gyfer y tymor hwy.
Dengys y dystiolaeth fod lefelau’r cronfeydd wrth gefn a ddelir gan yr Awdurdodau Lleol wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Er ei bod yn ddoeth i’r Awdurdodau baratoi ar gyfer cyfnod ariannol mwy heriol, mae hefyd yn rhesymol dymuno gweld tystiolaeth bod yr Awdurdodau’n gwneud penderfyniadau ariannol er lles gorau eu cymunedau.
Mae’r ymarfer wedi dangos bod enghreifftiau da yn bodoli lle mae’r Awdurdodau’n dangos lefel uchel o dryloywder trwy amlinellu’n glir manylion am ddiben cronfeydd wrth gefn a’r defnydd ohonynt fel rhan o’u cyfrifon statudol. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth i ddarllenwyr y cyfrifon sy’n helpu i esbonio penderfyniadau i sefydlu a dal cronfeydd penodol wrth gefn.
Er hynny, nid yw’r dull gweithredu hwn yn gyffredin i bob Awdurdod. Mae sawl Awdurdod yn cyflwyno gwybodaeth gyfyngedig, heb fawr o eglurder am ddiben y cronfeydd wrth gefn a ddelir ganddynt a’r defnydd ohonynt. O gofio mai arian trethdalwyr yw hyn, mae’n rhesymol disgwyl i’r Awdurdodau ddarparu gwybodaeth ddigonol i helpu darllenwyr y cyfrifon i’w dehongli. Rwyf yn credu bod lle i’r broses archwilio herio rhai o’r dulliau cyflwyno. I gefnogi gwell craffu a thryloywder, mae gwybodaeth am lefelau’r cronfeydd wrth gefn a ddelir gan bob Awdurdod lleol bellach yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r drefn ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yn ôl y data diweddaraf, ar ddiwedd Mawrth 2014, daeth cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi ar gyfer pob un o Awdurdodau Lleol Cymru i gyfanswm o £823 miliwn. Cronfeydd wrth gefn sy’n cael eu neilltuo ar gyfer prosiectau neu ddibenion penodol yw’r rhain. Mae’r Awdurdodau hefyd yn dal cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi i ddelio â sefyllfaoedd annisgwyl. Balans y cronfeydd wrth gefn hyn oedd £210 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2014.
Mae hyn yn golygu bod cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi yn cyfrif am o 11% o wariant refeniw gros yr Awdurdodau ar gyfartaledd, ond bod cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi’n dod i 3% ar gyfartaledd. O fewn y cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi, mae cryn amrywiad rhwng Awdurdodau Lleol yng Nghymru, yn amrywio o 3% i 22% o wariant gros, tra oedd cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi rhwng 1% a 5%. Er fy mod yn cydnabod bod rhywfaint o amrywiad i’w ddisgwyl, mae’n deg disgwyl rhyw esboniad o amrywiad mor fawr â hyn. Yn yr un modd byddai o gymorth deall pam mae’r cyfartaledd cyffredinol ar gyfer yr holl gronfeydd wrth gefn yn cyfrif am 17% o wariant yr Awdurdodau o’i gymharu â ffigur o 11% yn achos Cynghorau yn Lloegr.
Dylai cyhoeddi’r data hwn ennyn diddordeb yn y strategaethau sy’n cael eu mabwysiadu gan yr Awdurdodau ar gyfer dal a defnyddio cronfeydd wrth gefn. Mae’r canllawiau’n glir y dylai pob Awdurdod baratoi a chynnal strategaeth o’r fath. Un Awdurdod yn unig ddarparodd dystiolaeth bod ganddo brotocol â fframwaith ar gyfer proses ddiffiniedig ar gyfer sefydlu, adolygu a gwario cronfeydd wrth gefn. Er lles gwell tryloywder ac atebolrwydd, byddaf yn ceisio cryfhau’r gofyniad hwn.
Yn olaf, mae’n destun pryder arbennig bod diffyg cyfle, i bob golwg, i Aelodau Etholedig graffu ar y ffordd y mae’r cronfeydd wrth gefn a ddelir gan eu Hawdurdod yn cael eu gwario. Yn y mwyafrif o Awdurdodau, ymddengys nad yw craffu’n digwydd ond fel rhan o’r broses o bennu cyllidebau heb unrhyw ganolbwynt penodol ar y penderfyniadau am lefelau’r cronfeydd wrth gefn a ddelir.
Nid yw sefyllfa lle mae’r Prif Swyddog Cyllid yn darparu datganiad i’r Aelodau bod ‘cronfeydd wrth gefn yn ddigonol ac yn dangos prawf o reoli ariannol darbodus’, yn dangos imi fod cyfle digonol i’r Aelodau ystyried a herio lefelau’r cronfeydd wrth gefn a ddelir.
Er fy mod yn derbyn mai cyfrifoldeb yr Awdurdod yw’r materion hyn, mater i’r Aelodau etholedig lleol yw craffu ar y penderfyniadau hyn ac mae angen iddynt fod yn fodlon bod penderfyniadau’n cynnig gwerth am arian. Yn fy marn i, nid yw’r canllawiau presennol i’r Aelodau graffu’n effeithiol ar gyllidebau yn mynd yn ddigon pell wrth gefnogi craffu ar gronfeydd wrth gefn. Rwyf y bwriadu cyhoeddi canllawiau pellach i’r aelodau i’w cefnogi yn hyn o beth.
Credaf y bydd y camau a amlinellir uchod a chyhoeddi’r data am y cronfeydd wrth gefn yn hwyluso gwell tryloywder ac yn datblygu dull gweithredu mwy cadarn o wneud penderfyniadau am reoli cronfeydd wrth gefn. Dylai hyn hefyd hybu dull gweithredu mwy cyson a thryloyw o adrodd am gronfeydd wrth gefn sy’n esbonio eu diben wrth drethdalwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn glir.
Yn y pen draw, diben hyn yw sicrhau bod penderfyniadau am y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan Awdurdodau Lleol a’r defnydd ohonynt yn rhoi’r gwerth gorau i dalwyr y dreth gyngor ac y gallwn fod yn hyderus bod trefn briodol yn bodoli ar gyfer herio’r penderfyniadau hynny a chraffu arnynt.