Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Mae Llywodraeth y DU (ar 27 Mehefin) wedi cyhoeddi’r dyraniadau rhanbarthol ar gyfer Cymru.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfnod o lobïo dwys gan Weinidogion Cymru ar gyllideb yr UE (Fframwaith Ariannol Amlflwydd) a’r fformiwlâu cyllid y cytunodd Llywodraeth y DU arnynt ym mis Chwefror 2013. Byddai hynny wedi golygu gostyngiad posibl o £400 miliwn i Gymru yn nhermau arian parod, a llawer mwy mewn termau real.
Ym mis Mawrth 2013, cadarnhawyd mai €2,145m fyddai’r ymrwymiad cyllid cyffredinol i ddau ranbarth cymwys Cymru yn ôl prisiau 2011, sef gostyngiad o 5% ar raglenni 2007-2013, o’i fesur yn ôl prisiau 2011. Hefyd roedd gostyngiad o 5% i ddyraniadau cenedlaethol yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Ar gyfer Cymru, roedd y dyraniad arfaethedig uwch i Gymru yn gynnydd o €375m (£312m*) ar y dyraniadau dangosol yn sgil cyllideb yr UE y cytunwyd arni yn y Cyngor Ewropeaidd ym mis Chwefror – mae hwn yn setliad tecach a mwy cyfartal ar gyfer buddsoddi mewn twf a swyddi yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf ar ddosbarthu cyllid yn rhanbarthol yng Nghymru yn ôl hyblygrwydd deddfwriaeth ddrafft y Comisiwn Ewropeaidd. Yn ystod y trafodaethau hyn, rwyf wedi bod yn eglur iawn ein bod am gyfeirio cymaint â phosibl o arian â phosibl at ranbarth gwannaf Cymru, sef Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, er mwyn sicrhau gweddnewid go iawn yng Nghymru.
Er bod safbwynt Llywodraeth y DU heddiw yn gam mawr ymlaen, mae hyn yn cyflwyno her sylweddol ar ben y pwysau eraill ar gyllid domestig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 26 Mehefin.
Bellach mae angen i’r Comisiwn Ewropeaidd gefnogi’r dyraniadau rhanbarthol, a bydd yr UE hefyd yn eu haddasu yn ôl prisiau 2014 gan ddefnyddio lefel chwyddo flynyddol o 2% rhwng 2011 a 2014, y cytunwyd arni fel rhan o gynigion cyllideb yr UE. Bydd hyn yn golygu mai oddeutu £2.01 biliwn fydd dyraniad cyffredinol Cymru o’i gymharu â bron £1.9 o dan y rhaglenni cyfredol. Yn ôl prisiau 2014, bydd y dyraniadau ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn £1.675 biliwn a’r dyraniadau ar gyfer Dwyrain Cymru yn £340 miliwn.
Rwy’n falch o weld cytundeb gwleidyddol ynghylch cyllideb yr UE a’r arwyddion cadarnhaol y bydd Senedd Ewrop yn ei chefnogi yr wythnos nesaf. Bydd hyn yn golygu bod modd cychwyn rhaglenni yng Nghymru ddechrau 2014 wedi i’r Rhaglenni Gweithredol gael eu cyflwyno i’r Comisiwn ym mis Hydref.
Byddaf yn gwneud datganiad i’r Aelodau ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad cyhoeddus a materion eraill yr UE sy’n effeithio ar y Cronfeydd Strwythurol ym mis Gorffennaf.
* Ffigurau mewn punnoedd ar sail cyfradd gynllunio o £1: €1.20