Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Mae’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi gwneud amryw o gyhoeddiadau pwysig yr wythnos hon. Ar 19 Tachwedd, cytunodd Senedd Ewrop ar Fframwaith Amlariannol Blynyddol 2014–2020 a ddoe (20 Tachwedd), cytunodd ar y pecyn deddfwriaethol ar gyfer Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mae’r cytundebau gwleidyddol hyn yn hollbwysig. Byddant yn helpu i baratoi’r ffordd fel y gall Cyngor Gweinidogion yr UE fabwysiadu Rheoliadau newydd y Cronfeydd Strwythurol a’r Cynllun Datblygu Gwledig yn ffurfiol, ac ar gyfer cyflwyno Cytundeb Partneriaeth y DU gan Lywodraeth y DU. Mae disgwyl i’r ddau beth ddigwydd tua diwedd mis Rhagfyr.
Mae swyddogion WEFO hefyd yn rhan o ddirprwyaeth Llywodraeth y DU sy’n cyfarfod y Comisiwn Ewropeaidd heddiw i drafod y fersiwn ddiweddaraf o Gytundeb Partneriaeth y DU. Mae angen cyflwyno’r Cytundeb i’r Comisiwn cyn y gallwn gyflwyno dogfennau ein rhaglenni iddo, er mwyn eu trafod a’u chytuno’n ffurfiol yn ystod y misoedd nesaf.
Yn y cyfamser, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu rhanddeiliaid i gynllunio a datblygu prosiectau’r Cronfeydd Strwythurol, fel ein bod yn barod i’w rhoi ar waith ddechrau 2014.
Yn ychwanegol at y trafodaethau anffurfiol â’r Comisiwn Ewropeaidd sydd eisoes ar y gweill, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ddrafft allweddol ar wefan WEFO (www.wefo.wales.gov.uk) yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf. Bydd yn cynnwys drafft o’r bennod ar Gymru yng Nghytundeb Partneriaeth y DU, y Rhaglenni Gweithredol drafft ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol, drafft o’r ailadroddiad cyntaf o’r Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd, a chanllawiau drafft eraill. Mae’r gwaith o ddatblygu’r holl ddogfennau hyn yn tynnu at ei derfyn yn dilyn trafodaethau mewnol ac allanol helaeth. Caiff y dogfennau eu diwygio eto, fodd bynnag, yng ngoleuni sylwadau’r Rhagwerthuswyr annibynnol ac adborth anffurfiol y Comisiwn Ewropeaidd. Cânt eu diweddaru’n rheolaidd ar wefan WEFO felly, wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.
Byddaf hefyd yn mynychu Digwyddiad Blynyddol WEFO yng Nghaerdydd ar 28 Tachwedd wrth inni barhau i gysylltu â’n prif randdeiliaid ynglŷn â’r trefniadau i ddarparu rhaglenni’r dyfodol. Mae WEFO hefyd wedi bod yn cynnal cyfres o weithdai darparu ledled Cymru ar gyfer y rheini sy’n datblygu prosiectau’r dyfodol.
Rwy’n falch hefyd fod Senedd Ewrop wedi cytuno heddiw ar reoliadau’r gronfa ymchwil ac arloesi, Horizon 2020, sy’n werth €79 biliwn ar draws rhanbarthau’r UE. Lansiodd y Prif Weinidog a minnau’r rhaglen Horizon 2020 yng Nghymru'r wythnos ddiwethaf. Bydd cytgord rhwng y gronfa hon a’r Cronfeydd Strwythurol a ddaw i Gymru yn y dyfodol yn allweddol o ran helpu i ehangu Horizon 2020 i gyfranogwyr newydd, ac o ran gwneud y gorau o fuddsoddiadau’r UE i’n helpu i gystadlu ar lwyfan y byd.
Bydd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd a minnau hefyd yn gwneud cyhoeddiad maes o law ynglŷn ag aelodaeth o’r Pwyllgor Monitro Rhaglen sengl newydd, sy’n ymdrin â Chronfeydd Strwythurol a Chronfeydd Datblygu Gwledig yn ystod cyfnod rhaglenni 2014-2020.