Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Cronfa’r Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru ei lansio i helpu’r sector i adfer a pharhau’n gydnerth yn ystod cyfnodau heriol. Nod y gronfa yw sicrhau’r effaith fwyaf ar yr economi ymwelwyr ehangach drwy alluogi derbynwyr i ychwanegu at eu teithiau presennol i ddatblygu a hyrwyddo rhaglenni a phecynnau sydd wedi’u eu diweddaru ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Cynlluniwyd y gronfa i sicrhau bod Cymru’n cadw a meithrin y cysylltiad cadwyn gyflenwi hanfodol â marchnadoedd rhyngwladol gwerthfawr a ddarperir gan ein Cwmnïau Rheoli Cyrchfannau, trefnwyr teithiau i ymwelwyr rhyngwladol, tywyswyr proffesiynol i dwristiaid ac ysgolion dysgu Saesneg achrededig sydd wedi’u lleoli ac sy’n gweithredu yng Nghymru. Mae’r cyflenwyr hyn yng Nghymru’n darparu gwasanaeth busnes i fusnes sy’n ddiwylliannol sensitif ar gyfer trefnwyr ac asiantiaid rhyngwladol sy’n chwilio am ddarparwr lleol yn y maes gyda’r wybodaeth a’r cysylltiadau i gynnal busnes ar hyd a lled economi ymwelwyr Cymru gyfan, gan gynnwys pob math o lety, atyniadau a phrofiadau, lletygarwch, manwerthu a thrafnidiaeth.

Mae hon yn gronfa gystadleuol a chyfanswm y gyllideb yw £400,000. Uchafswm y dyfarniadau bydd £50,000 a chânt eu dyrannu i gwmnïau cymwys yn unol â rhaglen y cytunwyd arni o weithgareddau yn erbyn meini prawf a osodwyd, ac a ystyrir i fod fwyaf tebygol o hyrwyddo cadernid ac adferiad economaidd y sector twristiaeth mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol.