Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Dyrannwyd cyfanswm o £14 miliwn o gyllid yr UE i Gymru o dan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) 2014 – 2020.
Cyflenwir y rhaglen gan Taliadau Gwledig Cymru (RPW) a heddiw mae ychydig o dan 80% o’r arian sydd ar gael wedi’i ymrwymo a gwerth tros £11.3 miliwn o grantiau wedi eu rhoi i 214 o brosiectau ledled Cymru. Mae gwerth £2.8 miliwn ychwanegol o brosiectau o dan ystyriaeth ar hyn o bryd.
Er bod cyfnod swyddogol y rhaglen yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, bydd y rhaglen yn parhau i weithredu ac yn tynnu oddi ar gyllid yr UE am y tair blynedd sy’n weddill yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020.
Er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cyflawni’r amcanion a nodir yn Rhaglen Weithredol y DU o fewn y gyllideb, rwyf wedi penderfynu cau rhaglen Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop i gynigion prosiect ad-hoc ar 31 Rhagfyr 2020.
Bydd y broses ymgeisio ad-hoc yn cael ei disodli gan gyfnodau ymgeisio ‘datgan diddordeb’ o dan feini prawf dethol penodol ar gyfer y cyllid sy’n weddill o dan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop.
Drwy gau’r rhaglen i geisiadau ad-hoc, gallaf sicrhau bod y gyllideb sy’n weddill o Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop yn canolbwyntio ar adferiad COVID-19 a blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector morol a physgodfeydd ar ddiwedd y Cyfnod Pontio
Bydd manylion pellach ar y drefn ymgeisio ddiwygiedig yn cael eu cyhoeddi gan RPW maes o law.