Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddar i Aelodau'r Senedd am agor cyfnod ymgeisio newydd ar gyfer Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) Cynllun Costau Safonol.
Mae’r EMFF yng Nghymru yn rhaglen £17m a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd. Er i gyfnod swyddogol y rhaglen ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, bydd y rhaglen yn parhau i weithredu a thynnu arian yr UE i lawr tan ddiwedd 2023.
Mwy na 95% o gyllideb y rhaglen wedi cael ei neilltuo, gyda nifer fach o geisiadau'n dal i gael eu hystyried. Fodd bynnag, yn ystod y misoedd diwethaf mae cyllideb y prosiect yn Sterling (£) wedi cynyddu mewn termau real o ganlyniad i'r amrywiadau yn y gyfradd newid rhwng yr Ewro a Sterling, yn ogystal â dad-ymrwymiadau prosiectau; mae hyn wedi arwain at £400,000 ychwanegol i gefnogi prosiectau newydd yng Nghymru.
Dim ond tan fis Rhagfyr 2023 y mae cyllid yr UE ar gael, a bydd yn cael ei ddefnyddio i helpu'r diwydiant pysgota i addasu i amodau'r farchnad cynhyrchion bwyd môr, amodau sy'n newid yn gyflym.
Bydd cyfnod ymgeisio Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop – y Cynllun Costau Safonol yn agor ar 3 Ebrill ar yn cau ar 12 Mai. Yn dilyn proses ddethol rhoddir contract i ymgeiswyr llwyddiannus ar ddechrau mis Mehefin. Bydd gan fuddiolwyr bedwar mis i brynu eitemau a chyflwyno hawliad.
Bydd y cynllun yn cefnogi prynu eitemau o restr o offer cymwys a nodir ymlaen llaw, ar gostau safonol, gan alluogi pysgotwyr neu berchnogion cychod i 'ychwanegu gwerth' at eu dalfeydd a gwneud y busnes yn gyffredinol yn fwy cynaliadwy.
Mae eitemau o offer wedi cael eu dewis i gyd-fynd â Blaenoriaeth Undeb 1 yr EMFF 'Gwerth ychwanegol, ansawdd cynnyrch a defnydd o ddalfeydd diangen – pysgotwyr yn unig [Hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy, effeithlon o ran adnoddau, arloesol, cystadleuol a seiliedig ar wybodaeth]; gall ymgeiswyr fanteisio ar gyllid grant o hyd at 80% tuag at gost offer cyfalaf. Y grant uchaf y gellir ei roi yw £30,000.
Er mwyn gwneud cais i'r Cynllun Costau Safonol, rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u cofrestru gyda Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) ar-lein, a fydd yn cynnal y prosesau ar gyfer gwneud cais ac ymdrin â hawliadau. Mae manylion canllawiau ar y cynllun ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os bydd angen unrhyw gymorth ac arweiniad ychwanegol, dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 03000 062 5004.