Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r prosiectau sy'n derbyn cyllid cronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig.
Bydd y gronfa £5 miliwn ar gyfer 2023-25 yn cael ei rhannu rhwng 29 o brosiectau a fydd yn helpu i sicrhau gwelliannau seilwaith bach mewn lleoliadau twristiaeth ledled Cymru.
Mae'r gronfa'n cefnogi awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i wneud gwelliannau a ddaw â budd i ymwelwyr a chymunedau lleol. Mae'r gronfa eleni yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys mentrau i helpu i leddfu'r pwysau mewn ardaloedd sy'n gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, prosiectau i wella hygyrchedd a phrosiectau sy'n gwneud eu cyrchfannau'n fwy amgylcheddol gynaliadwy.
Ceir rhestr o'r prosiectau llwyddiannus isod.
Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn i aelodau gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os carai aelodau ddatganiad pellach gennyf neu atebion i gwestiynau pan ddaw’r Senedd yn ei hôl, byddaf yn fwy na pharod i’w rhoi iddynt.