Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn cyd-fynd ag Wythnos Twristiaeth Cymru, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r prosiectau sy'n derbyn cyllid o gronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig eleni.

Bydd y gronfa £2.9m ar gyfer 2022-23 yn cael ei rhannu ymhlith 18 o brosiectau a fydd yn helpu i sicrhau gwelliannau seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig ledled Cymru.

Mae'r gronfa'n cefnogi awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i gyflawni gwelliannau a fydd o fudd i ymwelwyr a chymunedau lleol. Mae'r gronfa eleni yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys mentrau i helpu i leddfu'r pwysau mewn ardaloedd sy'n gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, prosiectau i wella hygyrchedd a phrosiectau sy'n gwneud eu cyrchfannau'n fwy amgylcheddol gynaliadwy.

Ceir rhestr o'r prosiectau llwyddiannus isod.