Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Nid dim ond i wasanaethau iechyd a lles a gwasanaethau cyhoeddus y mae COVID-19 yn fygythiad enfawr yng Nghymru. Mae’n fygythiad hefyd i lawer o fusnesau, ac yn wir i dalpiau cyfain o’r economi.
Sefydlwyd yr Is-adran Tir newydd ym mis Medi 2019 er mwyn datblygu ymhellach ymgyrch y Llywodraeth hon i gynyddu nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu ledled Cymru.
Dywedais ar y pryd fod sefydlu’r is-adran hon yn ddatganiad clir gan y Llywodraeth ein bod o ddifrif ynghylch cyflymu’r broses o ddatblygu tir y sector cyhoeddus, a’n bod yn sefydlu’r adnoddau a’r strwythurau i gyflawni’r flaenoriaeth drawslywodraethol fawr hon.
Rydym wedi gweld ymateb aruthrol gan ein cymunedau i’r pandemig hwn, cymunedau y mae angen cartrefi fforddiadwy a chymdeithasol arnynt mewn llawer achos. Mae’r amser wedi dod i gryfhau ein hymateb i’r angen am dai ledled y wlad.
Heddiw rwy’n cyhoeddi bod £5m i’w neilltuo yn ystod y flwyddyn ariannol hon ar gyfer Cronfa Rhyddhau Tir, a fydd yn helpu i ddatgloi asedau tir sy’n perthyn i’r sector cyhoeddus, er mwyn darparu tai fforddiadwy a chymdeithasol ledled Cymru y mae eu hangen yn fawr. Caiff y gronfa hon ei defnyddio i oresgyn problemau yn ymwneud â thir lle mae gwaith datblygu wedi dod i stop. Rwy’n cydnabod y bydd ein hawdurdodau cyhoeddus yn wynebu heriau sylweddol yn dilyn Covid-19. Fodd bynnag, rwyf am bwyso ar bob corff cyhoeddus i dynnu ynghyd i fanteisio ar y gronfa hon.
Eleni, bydd y Gronfa Rhyddhau Tir yn cefnogi’r uchelgais ar gyfer datblygiadau carbon isel graddfa fach. Mae diddordeb arbennig gen i mewn ceisiadau yn ymwneud â chynlluniau a fydd yn defnyddio dulliau adeiladu modern a thechnolegau arloesol ac a fydd yn cyflawni’n gyflym.
Yn y tymor byr, rwy’n gwybod bod awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn gorfod rhoi sylw ar hyn o bryd i flaenoriaethau eraill. Fodd bynnag, rwy’n cyhoeddi’r fenter hon nawr gan fy mod am i awdurdodau lleol a phartneriaid yn y sector cyhoeddus fod mewn sefyllfa i gynnig safleoedd pan fyddwn wedi dod drwy’r pandemig presennol.
Mae ymateb ein cenedl i’r argyfwng hwn wedi bod yn neilltuol. Rydym wedi bod yn paratoi ers wythnosau ar gyfer yr hyn sy’n digwydd nawr, ond mae angen inni baratoi hefyd ar gyfer beth fydd yn digwydd wedyn. Bydd y Gronfa Rhyddhau Tir yn hyrwyddo’r arfer o ryddhau tir cyhoeddus sydd heb ei ddatblygu er lles y cyhoedd. Bydd yn darparu’r cartrefi sydd eu hangen ar ein cymunedau ac yn ysgogi’r economi, yn enwedig y diwydiant adeiladu a’i gadwyni cyflenwi cysylltiedig. Mae hwn yn amcan pwysig gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn helpu i gryfhau cymunedau lleol ledled Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Rhyddhau Tir, cysylltwch â Tir.Land@llyw.cymru;