Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd
Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am agor ffenestr ymgeisio rhaglen yr EMFF heddiw.
Mae'r EMFF yng Nghymru yn rhaglen gwerth £17 miliwn, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd.
Er i gyfnod swyddogol y rhaglen ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, mae'r rhaglen yn parhau i weithredu a thynnu cyllid yr UE i lawr am dair blynedd ychwanegol fel y cytunwyd o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020.
Gweinyddir y rhaglen gan Daliadau Gwledig Cymru, ac o heddiw mae lefel yr ymrwymiad yn 87% gyda thros £15.1 miliwn mewn dyfarniadau grant cymeradwy ar gyfer prosiectau ledled Cymru, a £1 miliwn arall o brosiectau yn dal i gael eu hystyried.
Y llynedd, cyhoeddais y byddai'r rhaglen yn cau dros dro ar 31 Rhagfyr 2020 tra bod swyddogion yn asesu'r prosiectau presennol a sefyllfa'r gyllideb yn erbyn yr amcanion a nodir yn Rhaglen Weithredol y DU.
Oherwydd cyfyngiadau covid-19 parhaus a dad-ymrwymiadau prosiectau dros y 12 mis diwethaf, mae cyllideb EMFF o £1m wedi dod ar gael i gefnogi prosiectau newydd yng Nghymru.
Dim ond tan 2023 y mae cyllid yr UE ar gael, a bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth i helpu'r diwydiant i liniaru effaith barhaus y pandemig ac addasu i amodau'r farchnad ar gyfer cynhyrchion bwyd môr sy'n newid yn gyflym. Bydd y cyllid yn cefnogi buddsoddiadau yn y fflyd arfordirol a dyframaeth ar raddfa fach, ynghyd â gwelliannau i farchnata a phrosesu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu. Fodd bynnag, bydd yn rhaid cwblhau unrhyw brosiect a ddewisir ac a gefnogir o dan y rhaglen o fewn cyfnod o 12 mis sy'n dechrau o fis Gorffennaf eleni.
Mae cyllid ar gael o dan Flaenoriaeth 1 Undeb EMFF (Erthygl 42) Gwerth ychwanegol, ansawdd cynnyrch a defnydd o ddalfeydd diangen – pysgotwyr yn unig [Hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy, effeithlon o ran adnoddau, arloesol, cystadleuol a seiliedig ar wybodaeth]; Blaenoriaeth 2 yr Undeb (Erthygl 48): Buddsoddiadau Cynnyrch mewn Dyframaethu – buddsoddiadau dyframaethu yn unig, a Blaenoriaeth 5 yr Undeb (Erthyglau 68 a 69) Marchnata a Phrosesu [Meithrin marchnata a phrosesu].
Bydd y cyfnod ymgeisio EMFF yn agor heddiw a bydd yn parhau ar agor am 10 wythnos. Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cais ddarllen y canllawiau a cyflwyno Ffurflen Amlinellol y Prosiect i Daliadau Gwledig Cymru cyn gynted â phosibl. Yna darperir cais llawn i'w gyflwyno erbyn 25 Mawrth. Bydd yr holl gynigion prosiect a dderbynnir yn cael eu hasesu ar y wybodaeth a ddarperir yn y cais a dim ond ar ôl i'r cyfnod ymgeisio gau y caiff ei ystyried.
Mae manylion y rhaglen EMFF a chanllawiau'r cynllun i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru: Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop.
Am unrhyw gymorth a chefnogaeth ychwanegol, dylai ymgeiswyr gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid RPW ar 03000 062 5004.