Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn adborth Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA), mae'n dda gen i gyhoeddi cynllun newydd o dan Gronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF), i'w weinyddu gan Taliadau Gwledig Cymru.

Bydd y Cynllun Costau Safonol newydd yn agored i bysgotwyr arfordirol bach sy'n weithgar yn y diwydiant pysgota ac sy'n cynnal gweithgareddau pysgota diogel, cynaliadwy ac arloesol ac sy'n defnyddio adnoddau'n effeithiol. Bydd y cynllun yn symleiddio'r drefn i bysgotwyr ar gyfer ymgeisio i'r EMFF yng Nghymru.

Bydd ffurflen gais ar-lein ar gael i Bysgotwyr Cymru ar RPW Ar-lein heddiw, a bydd ar agor am bedair wythnos.

Mae dwy ffurflen gais ar gael ar-lein:

  • Y naill ar gyfer offer iechyd a diogelwch, i bysgotwyr allu gwneud cais am eitemau fel rafftiau achub, offer radio, paent atal llithro a diffoddwyr tân.
  • Mae'r llall ar gyfer offer fydd yn ychwanegu at werth y ddalfa, gan gynnwys eitemau fel peiriannau iâ ar fwrdd cwch, offer pacio gwagle, cewyll pysgod cregyn a pheiriannu cochi pen-bwrdd.

Caiff pysgotwyr ddefnyddio'r naill ffurflen neu'r llall, neu'r ddwy, gan ddibynnu beth ydyn nhw am ei brynu. Llywodraeth Cymru sydd wedi penderfynu ar yr eitemau hyn, ar sail anghenion pysgotwyr, a bydd grant yn cael ei roi yn ôl costau safonol yr eitem.

Er mwyn gwneud cais am y Cynllun Costau Safonol, rhaid i bysgotwyr gofrestru am gyfrif gydag RPW Ar-lein, a thrwy'r cyfrif hwnnw y byddan nhw'n gwneud cais ac yn hawlio taliad. Fe welwch y manylion yn:

Cymorth ar gyfer Buddsoddiadau ar fyrddau cychod pysgota: eitemau am bris safonol