Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Wrth inni nodi’r Wythnos Gofalwyr, hoffwn dalu teyrnged i ofalwyr di-dâl ledled Cymru, sy’n gwneud cyfraniad enfawr bob dydd drwy ofalu am anwyliaid, cyfeillion a pherthnasau, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19. Mae’n bwysig bod y cyfraniad hwnnw’n yn cael ei barchu a’i werthfawrogi gan bob un ohonom.
Yn ystod yr wythnos hon, rydym yn dathlu’r miloedd o ofalwyr di-dâl nad yw eu harwriaeth yn cael y sylw haeddiannol yn aml iawn. Maent yn rhan annatod o system iechyd a gofal Cymru, ac mae angen inni eu cefnogi mewn modd sy’n eu galluogi i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.
Mae gofalwyr di-dâl wedi dweud pa mor anodd yw hi iddynt gael y seibiant amserol a phriodol y mae ei angen i’w helpu i reoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain. Nid yw seibiant bellach yn golygu rhoi cyfle i’r unigolyn sydd ag anghenion gofal aros mewn cartref gofal dros nos, neu fanteisio ar wasanaeth gwarchod dros nos. Gall seibiannau ddigwydd mewn llawer o wahanol ffyrdd - o gael amser i ymlacio a mwynhau bod gyda theulu a ffrindiau, i gael egwyl yng nghwmni’r unigolyn y maent yn gofalu amdano, neu hebddo.
Er mwyn ymateb i’r angen i gael seibiant, rydym yn darparu £3m yn 2021-22 i gefnogi gofal seibiant brys a datblygu cronfa ar gyfer galluogi pobl i gael egwyl fer.
Yn y lle cyntaf, rhoddir £1.75m i awdurdodau lleol Cymru i’w helpu i ddiwallu’r angen mawr am seibiant ymysg gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.
Yn ystod yr ail gam, darperir £1.25m i ddatblygu cronfa ar gyfer galluogi pobl i gael egwyl fer, gan weithio gyda’r sector lletygarwch, i ddarparu amrywiaeth o seibiannau. Yn gynharach eleni, fe wnaethom gomisiynu ymchwil gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac academyddion arweiniol o brifysgolion Bangor ac Abertawe, i’n helpu i fodelu’r gronfa newydd.
Mae sicrhau bod pob gofalwr yn weladwy ac yn cael ei werthfawrogi yn hanfodol er mwyn iddo allu manteisio ar ei hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Lansiwyd strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl ym mis Mawrth, ac rydym am ail-gadarnhau ein hymrwymiad i weithio gyda rhanddeiliaid ar draws y sectorau, yn ogystal â’r gofalwyr i sicrhau eu bod yn gallu cael yr wybodaeth, y cyngor a’r cymorth priodol.