Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Gwnaed datganiad ar Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru ym mis Gorffennaf 2023 ar ôl diddymu'r gronfa ym mis Chwefror 2023. Mae'r datganiad hwn yn ymdrin â dileu'r colledion sy'n deillio o'r gronfa yn derfynol.
Sefydlwyd Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru yn 2012 ar gyngor Panel y Sector Gwyddorau Bywyd. Rheolwyd y gronfa gan reolwr cronfa arbenigol Arix Capital Management, a gaffaelwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda Banc Datblygu Cymru yn gweithredu fel Deiliad y Gronfa. Benthyciodd Llywodraeth Cymru £42.4m i Fanc Datblygu Cymru ar gyfer y buddsoddiadau a wnaed drwy'r gronfa gan Arix Capital Management.
Mae buddsoddiad ecwiti cyfnod cynnar mewn cwmnïau gwyddorau bywyd yn risg uchel yn ei hanfod. Er bod y gronfa wedi cefnogi canlyniadau cadarnhaol lluosog ac wedi cyflawni amcanion allweddol, yn ariannol fe wnaeth golled.
Sylwodd bwrdd Banc Datblygu Cymru ar amhariadau cyfrifyddu blaenorol i ddileu £27.1m yn ei gyfrifon 2022-23 a rhoddodd wybod i Lywodraeth Cymru am hyn. Gan rag-weld colled sylweddol o werth, adlewyrchwyd darpariaeth gronnol ar gyfer colled o £18.9m yng nghyfrifon 2023-24 Llywodraeth Cymru .
Cafodd y gronfa ei ddiddymu ym mis Chwefror 2023. Ar y pryd trosglwyddwyd yr asedau a oedd yn weddill, cyfranddaliadau mewn 4 cwmni, o Arix Capital Management i Fanc Datblygu Cymru. Ar y pryd amcangyfrifwyd gwerth yr asedau a drosglwyddwyd i fod yn £2.5m.
Mae Banc Datblygu Cymru wedi chwilio am gyfleoedd priodol i adael y buddsoddiadau hyn ac mae'r farchnad wedi parhau i effeithio ar werthoedd. Cyfrannodd ymadawiad o'r buddsoddiadau a drosglwyddwyd at ad-daliad o £1.82m i Lywodraeth Cymru. Yn ogystal ag ad-daliad o £20m yn 2021-22 yn dilyn ymadawiad llwyddiannus o fuddsoddiad Simbec Orion, cyfanswm yr ad-daliadau oedd £21.82m - tua hanner gwerth y benthyciad gwreiddiol.
Erbyn hyn nid oes llawer o obaith o enillion pellach o'r asedau sy'n weddill. Felly, gwnaed penderfyniad i gwblhau'r broses ddileu ac adlewyrchu hyn yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Mae hyn yn fater cyfrifyddu yn bennaf. Aethpwyd i'r afael â chanlyniadau cyllidebol y golled mewn blynyddoedd blaenorol drwy gyfuno cyfrifon Banc Datblygu Cymru yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru.
Ystyriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Gronfa a'i pherfformiad yn ffurfiol ar 27 Medi 2023. Yn dilyn gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru a'r banc, cyflwynwyd ymateb terfynol a oedd yn mynd i'r afael â chwestiynau dilynol ar y gronfa ym mis Mawrth 2025. Cafodd crynodeb terfynol y Banc Datblygu ar derfyniad y gronfa hefyd ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mawrth 2025.