Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae diogelwch adeiladau yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Ar 14 Gorffennaf cyhoeddais am ddatblygu Cam 1 Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru. Fel rhan o’r datganiad hwnnw, dywedais y byddai’r cynllun ar agor yr hydref hwn. Heddiw, gallaf gyhoeddi bod y cam hanfodol hwn ar agor o yfory ymlaen.
Rydym wedi gwneud cynnydd mewn perthynas â’r mater cymhleth hwn drwy sicrhau bod yr holl adeiladau y nodwyd bod cladin ACM arnynt wedi cael, neu y byddant yn cael eu hadfer yn fuan heb unrhyw gostau ychwanegol i lesddeiliaid, a drwy sicrhau bod £10.5m ar gael y llynedd i adfer adeiladau yr effeithir arnynt yn y sector cymdeithasol. Er hynny, bydd y cam cyntaf hollbwysig hwn yn ein helpu i ddeall gwir raddfa’r broblem a’r atebion iawn i fynd i’r afael â’r broblem yn briodol. Bydd Personau Cyfrifol adeiladau preswyl canolig ac uchel yng Nghymru yn gallu cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i'r gronfa o yfory ymlaen.
I gynllunio'r cam cyntaf hwn, sefydlodd fy swyddogion grŵp Gorchwyl a Gorffen o weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr allweddol yn y sector. Er mwyn sicrhau bod y cynnig ar gyfer Pasbort Adfer Adeiladau yn ymgorffori safbwyntiau tenantiaid/lesddeiliaid, roedd y grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth o'r Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid (TPAS). Cynrychiolwyd Cymdeithas Yswirwyr Prydain a Chyllid y DU hefyd yn y grŵp i sicrhau bod materion yn ymwneud ag yswiriant a morgeisi hefyd yn cael eu cynnwys. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i holl aelodau'r grŵp hwnnw am eu hamser a'u harbenigedd.
Y rhaglen gymorth fesul cam hon yw'r ffordd orau o sicrhau ein bod yn targedu cyllid i adfer adeiladau'n effeithiol er mwyn cefnogi lesddeiliaid.
Mae gan ddatblygwyr rôl glir i'w chwarae o hyd o ran cyfrannu at fynd i'r afael â diffygion diogelwch lle maent yn bodoli er mwyn amddiffyn lesddeiliaid rhag costau, ac mae hon yn neges y byddaf yn ei chadarnhau yn fy nghyfarfod bord gron gyda nhw yr wythnos nesaf. Er fy mod wedi bod yn falch o weld nifer o ddatblygwyr yn neilltuo arian ar gyfer y gwaith hwn, credaf fod mwy y gellir, ac y dylai, gael ei wneud ganddynt.
Er gwaethaf fy holl ymdrechion, nid wyf wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth y DU o hyd ar lefel ac amseriad unrhyw gyllid canlyniadol y gallai Cymru ei gael o ganlyniad i gyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni. Byddaf yn parhau i alw am hyn a byddaf yn hysbysu'r Aelodau pan fydd gennyf fwy o wybodaeth. Ond ni fyddaf yn caniatáu i'r oedi gan Lywodraeth y DU ein hymatal rhag bwrw ymlaen.