Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r stormydd diweddar nid yn unig wedi niweidio adeiladau a chaeau ein clybiau chwaraeon, maent wedi difrodi'r hyn sydd i lawer, gwead eu cymunedau – lleoedd hanfodol i'n hiechyd a'n lles, a hwb lle mae pobl yn cyfarfod ac yn cymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.

Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i ganiatáu i Chwaraeon Cymru helpu clybiau gyda'r costau atgyweirio ac amnewid o'r difrod a achoswyd gan y stormydd diweddar.  Gall clybiau a sefydliadau cymunedol nid-er-elw sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod diweddar gan stormydd wneud cais am grantiau hyd at £5,000 i'w helpu i adfer. 

Agorodd Cronfa Difrod Storm ddoe, tan 4pm ddydd Mawrth 17 Rhagfyr, a bydd yn darparu grantiau yn amrywio o £300 hyd at uchafswm o £5,000.  Byddwn yn annog ymgeiswyr cymwys i wneud cais ar frys.  Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru