Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gen i lansio heddiw y Gronfa Datblygu Porthladdoedd, sef cronfa sydd werth £2 filiwn.

Cred Llywodraeth Cymru fod porthladdoedd morol yng Nghymru'n bartneriaid allweddol ar gyfer cyflawni'r amcanion a nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu 'Symud Cymru Ymlaen'.  

Mae gan borthladdoedd Cymru - o bob maint ac o bob math - swyddogaeth allweddol o safbwynt cefnogi Cymru ffyniannus, unedig, diogel a chysylltiedig. Maent yn hwb unigryw ar gyfer gwella cyfoeth economaidd a chreu rhagor o swyddi ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol yng Nghymru. Maent hefyd yn sicrhau bod gan Gymru'r cysylltiadau rhyngwladol a chynaliadwy ar gyfer cludo pobl a nwyddau.

Wrth edrych tua'r dyfodol mae modd ychwanegu cryn werth at swyddogaeth y porthladdoedd o safbwynt cysylltu pobl, nwyddau a deunyddiau. Gallant fod yn ganolfannau ar gyfer economi forol amrywiol drwy ei gwneud hi'n bosibl i gydleoli mewn modd cynaliadwy weithgareddau masnachol, diwydiannol, logisteg, twristiaeth a physgota.

Mae elfen refeniw ac elfen gyfalaf ynghlwm wrth y gronfa hon a'i nod yw cynorthwyo porthladdoedd i anelu'n uwch. Gwahoddir ceisiadau am brosiectau a fydd yn
• hyrwyddo systemau cludo nwyddau sy'n defnyddio sawl math o gludiant mewn modd cynaliadwy a syml
• datblygu cyfleoedd twristiaeth newydd ac elwa i'r eithaf ar y rhai presennol, yn edrych ymlaen i Croeso 2018 Blwyddyn Cymru 'y Môr
• cefnogi gosodiadau ynni carbon isel ac adnewyddadwy
• gwarchod a gwella'r amgylchedd

Ceir gwybodaeth fanwl ar wefan Llywodraeth Cymru:

http://gov.wales/topics/transport/ports/ports-development-fund-2017-18/?skip=1&lang=cy

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu'r Aelodau ynghylch y newyddion diweddaraf. Byddwn yn barod iawn i wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull os mai dyna yw dymuniad yr Aelodau.