Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon


Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â chael Chronfa Cyffuriau Canser ar gyfer Cymru. Rydym yn gwrthwynebu’r syniad o gael Cronfa Cyffuriau Canser yng Nghymru gan na fyddai cronfa o’r fath yn gwella iechyd a lles cleifion canser yng Nghymru, ac y byddai’n creu anghydraddoldebau annerbyniol yn ein gwasanaeth iechyd.

Byddai unrhyw arian i’w roi mewn cronfa o’r fath yn gorfod cael ei gymryd oddi ar arian i drin cyflyrau eraill sy’n ddifrifol ac yn bygwth bywyd, sef yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr. Mae’n gyd-ddyletswydd arnom i ofalu am bob dinesydd yng Nghymru, ac mae’r annhegwch hwn yn gwrthdaro â’n gwerthoedd craidd ni.  

Nid oes unrhyw dystiolaeth fod Cronfa Cyffuriau Canser yn gwella ansawdd bywyd na chyfraddau goroesi cleifion. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod cysylltiad agos rhwng goroesi a diagnosis cynnar, ynghyd â llawdriniaethau a radiotherapi o safon uchel yn cael eu rhoi ar yr adeg cywir. Nid yw gwledydd lle mae lefelau uchel o fynediad at gyffuriau canser yn dangos cyfraddau goroesi uchel o reidrwydd.

Rydym eisoes yn gwario £4.50 y pen yn fwy na Lloegr ar driniaethau canser.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu wedi ymrwymo i sicrhau gwell iechyd i bawb a llai o anghydraddoldebau mewn iechyd. Y prif gamau i gefnogi hyn yw atal iechyd gwael, gwella’r canlyniadau i iechyd trwy sicrhau bod gwasanaethau’n ddiogel ac o safon, a’i gwneud yn haws i gleifion gael gafael ar wasanaethau a chael gwell profiad. Mae’r GIG yng Nghymru wedi dangos ymrwymiad clir i agenda Llywodraeth Cymru. Gwyddom fod mwy o bobl yn cael eu trin, ac yn cael eu trin yn gynt nag erioed o’r blaen.
Fodd bynnag, mae yna sawl her fawr. Mae’r galw’n cynyddu wrth i’n cymdeithas heneiddio, mae gan gleifion wrth gwrs ddisgwyliadau uchel o’r GIG, ac mae gwelliant parhaus yn y triniaethau sydd ar gael. Yr her yw ateb y disgwyliadau hyn pan fo llai o arian ar gael. Rhaid inni sicrhau ein bod yn defnyddio’n hadnoddau gwerthfawr yn effeithiol trwy sicrhau gofal sy’n rhoi gwerth mawr am arian, a hynny bob amser. Mae’n hollbwysig cael dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth i benderfynu pa driniaethau a ddylai fod ar gael fel mater o drefn yn system y GIG. Mae hynny’n rhoi sicrwydd i bawb fod arian yn cael ei wario ar gael manteision clir i iechyd, y gymdeithas a’r economi, ni waeth beth fo’r afiechyd y maen nhw neu eu hanwyliaid yn ddigon anffodus i ddioddef ohono.
Mae gennym drefniant arbennig o gryf ar gyfer meddyginiaethau. Mae’r Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn darparu cyngor awdurdodol ac arbenigol i’r GIG ynglŷn â rheoli meddyginiaethau. Mae parch mawr i’w gwaith am ei drylwyredd a’i gysondeb  rhwng arbenigeddau yng Nghymru a Lloegr. Eisoes, mae yna ddull cydymdeimladol o ymdrin â chleifion canser, sef trwy ddilyn meini prawf ‘diwedd oes’ ar gyfer cyffuriau canser.
Fel y rhan fwyaf o uwch glinigwyr, mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai Cronfa Cyffuriau Canser yn tanseilio’r gwaith mawr ei glod yn rhyngwladol a wneir gan NICE ac AWMSG, ac yn creu anghydraddoldebau annerbyniol yn ein system iechyd.

Hyd yn hyn, mae AWMSG wedi cyhoeddi canllawiau ynglŷn â bron i 130 o feddyginiaethau, ac mae dros dri chwarter ohonynt wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio yn y GIG yng Nghymru. Cafodd y meddyginiaethau hyn eu gwerthuso cyn i ganllawiau NICE gael eu cyhoeddi, ac mae hyn yn dangos yn glir fod gennym broses effeithiol ar gyfer darparu meddyginiaethau newydd fel mater o drefn pan fo’r dystiolaeth yn golygu bod hyn yn beth priodol i’w wneud. Er enghraifft, roedd abiraterone, sef meddyginiaeth ar gyfer canser y brostad, ar gael yng Nghymru fel mater o drefn o Chwefror 2012 ymlaen ar ôl iddo gael ei werthuso gan AWMSG.  Nid oes disgwyl i NICE gyhoeddi ei ganllawiau ynglŷn â’i ddefnyddio yn Lloegr tan Fehefin 2012.

Gall cleifion hefyd wedi cais i gael meddyginiaeth newydd sydd heb gael ei werthuso na’i gymeradwyo i’w ddefnyddio ar y GIG os ydyn nhw a’u meddyg yn teimlo y byddai o fudd iddynt oherwydd rhyw amgylchiadau eithriadol. Yng Nghymru, rydym wedi datblygu polisi safonol i’w ddefnyddio gan bob Bwrdd Iechyd i brosesu’r rhain fel Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol. Yn ddiweddar, mae’r broses hon wedi cael ei hadolygu i sicrhau bod dull cyson o benderfynu ymhob rhan o Gymru, bod modd deall y dull, a’i fod yn agored a thryloyw. Er mwyn rhoi mwy fyth o gefnogaeth i’r broses geisiadau, bydd AWMSG yn llunio rhagor o adolygiadau cyflym yn seiliedig ar dystiolaeth ar feddyginiaethau sydd eto i gael eu gwerthuso. Mae modd i’r panelau ceisiadau gael gafael ar yr un sylfaen dystiolaeth er mwyn penderfynu. Bydd hyn yn golygu llai o amrywiaeth rhwng ardaloedd yng Nghymru.

Yn Ebrill 2012, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gynllun Mynediad Cleifion at Feddyginiaethau Cymru yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus. Bydd y cynllun hwn yn gymorth i sicrhau bod yr AWMSG yn gallu ystyried gostyngiadau cost meddyginiaethau newydd wrth eu gwerthuso, ac mae’n ymestyn y cyfle i ragor o feddyginiaethau fod ar gael fel mater o drefn yng Nghymru, eto lle bo hynny’n briodol.

Pwnc emosiynol yw unrhyw afiechyd sy’n bygwth bywyd neu’n cyfyngu ar fywyd, ac nid yw canser yn ddim gwahanol yn hyn o beth. Peth anodd a heriol yw gorfod dweud ‘na’. Fel y dywedwyd o’r blaen, rydym eisoes yn gwario mwy y pen ar driniaeth ar gyfer canser na Lloegr, ond rhaid inni roi’r arian lle mae’n sicrhau’r manteision mwyaf. Mae hynny’n golygu canolbwyntio ar wneud diagnosis yn gynnar a thrin yn gynnar, megis llawdriniaethau a meddyginiaethau sydd wedi cael eu argymell i’w defnyddio yn dilyn gwerthusiad trylwyr. Pan fo diwedd oes yn agosáu, mae tystiolaeth yn dangos bod atgyfeirio’n gynnar at wasanaethau gofal lliniarol o safon uchel yn gallu gwella ansawdd bywyd a goroesiad, ac rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y maes hwn.

Yn y man, byddwn yn cyhoeddi Law yn Llaw yn erbyn Canser, sef cynllun cyflenwi ar gyfer y GIG a’i bartneriaid. Mae’r cynllun hwn yn dweud yn glir beth yw disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG o ran darparu triniaeth gyflym ac effeithiol ar gyfer canser, pan fo tystiolaeth glir fod hynny’n effeithiol yn glinigol ac o ran cost. Hoffwn sicrhau pawb o’n hymrwymiad cryf i sicrhau gofal rhagorol o safon uchel i gleifion canser yng Nghymru.

Am yr holl resymau hyn, anghyfrifol fyddai i Lywodraeth Cymru gyflwyno Cronfa Cyffuriau Canser pan fo popeth yn dweud wrthym mai’r ffordd gyfrifol ymlaen yw’r dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sef yr un yr ydym yn ei ddilyn eisoes.    

Rwy’n hyderus ein bod ni yng Nghymru yn dilyn dull rhesymegol o drin y mater hwn sydd gyda’r mwyaf cymhleth ac emosiynol, a’n bod yn ceisio defnyddio adnoddau cyfyngedig y GIG yn y ffordd orau bosibl, a hynny’n seiliedig ar y manteision i bob claf. Yn hanfodol, mae’r dull hwn yn cynnwys meddyginiaethau a thriniaethau i bawb, nid yn unig y rhai sy’n ymwneud â chanser.