Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi lansiad cam 3 ein Cronfa Cadernid Economaidd.

Hyd yma, mae’r Gronfa wedi cefnogi bron i 13,000 o fusnesau gan helpu i ddiogelu 100,000 o swyddi ar gyfer ein dinasyddion. Nod ein pecyn cefnogi busnesau gwerth £1.7 biliwn – sydd gyfwerth â 2.6% o’n gwerth ychwanegol gros – yw ategu a chyfrannu at gynlluniau eraill yn y DU, ac mae’n golygu y bydd gan gwmnïau yng Nghymru fynediad at y cynnig mwyaf hael yn unrhyw ran o’r DU.

Gan ddilyn yr egwyddorion o ddarparu gwell cymorth, heddiw rwy’n cyhoeddi bod £140m ychwanegol ar gael i fusnesau i’w helpu i ymdrin â heriau economaidd COVID-19 ac ymadawiad y DU o gyfnod pontio’r UE, sy’n nesáu.

Bydd y cyllid o drydydd cam Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cymorth ehangach yn cael ei ddarparu i ddiogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu, yn ogystal â chymorth ychwanegol ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u heffeithio gan gyfyngiadau lleol.

Yn y cam newydd hwn o’r Gronfa Cadernid Economaidd bydd £80m ar gael i helpu busnesau i ddatblygu a sicrhau cyflogaeth eu gweithlu drwy grantiau datblygu busnes, ond bydd angen i gwmnïau ymrwymo rhai o’u hadnoddau eu hunain yn gyfnewid amdano. Bydd tua £20m o’r gyllideb hon yn cael ei dyrannu i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch sy’n wynebu cyfyngiadau a heriau penodol wrth inni gyrraedd misoedd y gaeaf. Bydd y cynllun hefyd yn gwobrwyo’r busnesau hynny sy’n creu cyfleoedd swyddi i bobl o dan 25 oed.

Yn y cyfamser, dyrennir £60m ychwanegol i gefnogi busnesau mewn ardaloedd sy’n wynebu cyfyngiadau lleol.

Rwyf hefyd yn ystyried sut i ddefnyddio’r Banc Datblygu i gyfuno a diogelu cyfalaf tymor estynedig i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru wrth inni ddod o hyd i’n ffordd drwy’r misoedd nesaf.

Bydd y grantiau datblygu busnes ar gael i fusnesau o bob maint:

  • bydd micro fusnesau (sy’n cyflogi rhwng 1 a 9 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £10k ar yr amod eu bod yn cyfrannu eu buddsoddiad eu hunain o o leiaf 10%;
  • bydd busnesau bach a chanolig (sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £150k. Bydd angen i fusnesau bach gyfrannu eu buddsoddiad eu hunain o o leiaf 10% a bydd angen i fusnesau canolig ddarparu o leiaf 20% o’u cyllid eu hunain; 
  • bydd busnesau mawr (sy’n cyflogi 250+ o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £200k ar yr amod eu bod yn cyfrannu eu buddsoddiad eu hunain o o leiaf 50%. 

Bydd elfen ddewisol yn y gronfa i alluogi lefelau cymorth uwch ar gyfer micro fusnesau a busnesau bach a chanolig yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.

Bydd y Gwiriwr Cymhwysedd ar gael yn ystod wythnos 5 Hydref er mwyn i gwmnïau ddarganfod a yw’n bosibl iddynt gael cyllid o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd.

Gallai cwmnïau a gafodd arian grant yng nghamau un a dau y Gronfa Cadernid Economaidd, neu gymorth cysylltiedig ag Ardrethi Annomestig, hefyd fod yn gymwys i dderbyn cyllid yng ngham tri y Gronfa Cadernid Economaidd. Bydd £60m pellach ar gael i gefnogi cwmnïau sydd angen cau neu sydd wedi’u heffeithio yn sylweddol gan y cyfyngiadau lleol presennol.

Gall natur y cyfyngiadau lleol amrywio yn ôl y gwahanol amgylchiadau, a gall roi pwysau ariannol ar Lywodraeth Cymru os na fydd wedi’i liniaru’n llawn gan ymateb Llywodraeth y DU.

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid lleol a phartneriaid cymdeithasol i edrych ar ba gymorth fydd ei angen a sut y gellir darparu’r cymorth hwn i ddiwallu anghenion busnesau, gweithwyr a chymunedau.

Busnes Cymru yw’r man galw cyntaf o hyd ar gyfer cyngor i fusnesau ac mae ein hystod gyfredol o ddewisiadau cymorth ariannol i fusnesau’n parhau i fod ar gael.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi sicrwydd i’n busnesau bod cymorth pellach ar gael pan fyddant ei angen fwyaf.

Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i wneud popeth posibl i gefnogi ein busnesau, ein gweithwyr a’n cymunedau.