Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae'n bleser gennyf allu hysbysu Aelodau'r Senedd bod yr achos cyfreithiol a gychwynnwyd gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi'i setlo.
Cafodd y penderfyniad i gychwyn yr achos hwn ei gyhoeddi drwy Ddatganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd, ar 22 Ionawr 2018. Roedd y Gronfa wedi dwyn achos yn erbyn Amber Fund Management a Lambert Smith Hampton mewn perthynas â gwerthu portffolio o 15 eiddo yn 2012. Rwy’n falch i allu cadarnhau bod yr anghydfod hwnnw wedi'i ddatrys erbyn hyn, heb fod angen ysgwyddo'r costau sylweddol sy'n gysylltiedig â threial.
Daethpwyd i'r setliad hwn ar sail fasnachol a heb unrhyw addefiad o atebolrwydd gan unrhyw barti. Mae'r telerau manwl wedi'u cynnwys mewn cytundeb setlo cyfrinachol rhwng y partïon.
Rwy’n falch o allu sicrhau'r Aelodau y bydd y £40.7 miliwn sydd hyd yma wedi'i glymu yn y Gronfa bellach ar gael i gefnogi buddsoddiadau yn y dyfodol ledled Cymru.