Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Bwriad y datganiad hwn yw hysbysu Aelodau o’r camau yr wyf yn eu cymryd yn gysylltiedig â Chronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. Yn ystod tymor yr Hydref 2012, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ei bod yn cynnal astudiaeth gwerth am arian o’r broses o waredu asedau tir a roddwyd i’r Gronfa gan Lywodraeth Cymru. Cafwyd cyhoeddiad pellach gan y Swyddfa Archwilio ei bod yn ehangu cwmpas ei hastudiaeth i gynnwys amcanion, dulliau llywodraethu a gweithrediadau y Gronfa, gan gynnwys ei busnes parhaus, yn ogystal ag ystyried effeithiolrwydd trefniadau Llywodraeth Cymru o arolygu’r Gronfa. Yn dilyn yr ehangu hwn o ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd i Amber Fund Management, sy’n rheoli’r Gronfa ar ein rhan, i oedi gweithgareddau’r Gronfa.
Er mwyn lleihau’r tarfu y mae hyn yn ei achosi i fusnes y Gronfa a’i chyfres o brosiectau adfywio, rwyf heddiw yn cyhoeddi dau arolwg i agweddau penodol ar weithgareddau’r Gronfa, fydd yn cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr arolwg cyntaf yn arolwg cydweithwyr o’r broses a ddefnyddiodd y Gronfa i waredu’r asedau tir a roddwyd iddi gan Lywodraeth Cymru. Roedd llythyr yr Archwilydd Cyffredinol at Byron Davies ym mis Hydref yn ei gwneud yn glir bod hwn yn ffocws pwysig ar gyfer yr ymarfer gwerth am arian oedd i gael ei gynnal gan y Swyddfa Archwilio. Bu fy swyddogion yn cydweithio’n glos gyda staff y Swyddfa Archwilio wrth iddynt gynnal eu hymchwiliad. Rwy’n falch bod y Swyddfa Archwilio wedi cytuno i’r arolwg cydweithwyr a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ond i’w gynnal yn y fath fodd a fydd yn golygu y bydd canlyniad ein harolwg hefyd yn darparu tystiolaeth ar gyfer yr ymarfer ehangach a gynhelir gan y Swyddfa Archwilio.
Rwyf hefyd yn comisiynu arolwg mewnol o weithgareddau’r Gronfa a’n proses ni o’i harolygu yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys gwaredu’r tir. Bwriad yr arolwg hwn fydd nodi a oes unrhyw gamau cynnar y mae modd inni eu cymryd i sicrhau y gallant ailddechrau ar eu gweithgareddau. Unwaith eto, cynhelir yr arolwg hwn gyda chytundeb, ac mewn cydweithrediad clos, â’r Swyddfa Archwilio. Fy mwriad i wrth gomisiynu’r ddau arolwg hwn yw dileu unrhyw ansicrwydd sy’n bodoli ar hyn o bryd ynghylch gweithgareddau’r Gronfa, o ganlyniad i ymchwiliadau y Swyddfa Archwilio, a gwneud hynny cyn gynted â phosib.
Hoffwn gydnabod cydweithrediad parhaus Rheolwyr Amber Fund yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n bwysig inni gynnal ystod mor eang â phosib o ddulliau arloesol o fuddsoddi, megis y Gronfa Adfywio wrth inni ymateb i’r her o gefnogi prosiectau adfywio a hyrwyddo twf a swyddi. Byddaf yn darparu datganiad pellach am y Gronfa cyn bo hir.