Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyflwynwyd y Lefi Agregau yn 2002 fel ‘treth werdd’ ar godi agregau – carreg galed, tywod, graean a siâl – at ddibenion masnachol.  Mae cyfran o’r refeniw a godwyd wedi’i ddefnyddio i gynnal prosiectau cyfalaf mewn cymunedau y mae gwaith codi agregau wedi effeithio arnyn nhw.

Rwyf wedi ystyried cynaliadwyedd y Gronfa yn ôl yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer cyfnod 2017-2021.  Daeth y cynllun cyfatebol yn Lloegr i ben yn 2011 o ganlyniad uniongyrchol i’r toriadau caledi cychwynnol.  Yng Nghymru, rydym wedi ceisio cadw’r Gronfa i fynd mor hir ag y medrwn.

Mae penderfyniadau gwariant anodd yn wynebu Llywodraeth Cymru unwaith eto.  Mae gennym flaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd a dewisiadau anodd i’w gwneud.  Mae’r gyllideb sydd ar gael ar gyfer y Gronfa wedi cwympo at bwynt lle nad yw bellach yn cael fawr o effaith.  Gwaetha’r modd felly, rwyf wedi penderfynu y bydd y Gronfa’n cau ar 31 Mawrth 2017.