Neidio i'r prif gynnwy

Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio cam pellach o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol, gyda hyd at £30m ar gyfer chwe mis cyntaf 2021-22 i helpu i gefnogi sector diwylliant amrywiol Cymru drwy'r pandemig parhaus. Bydd hefyd yn helpu'r rhannau hynny o'r sector wrth i ni ddechrau llacio'r cyfyngiadau dros y misoedd nesaf wrth i ni barhau i weithio gyda'r sector i wella.

Rydym wedi gwrando a gweithio gyda'r sectorau i roi'r pecyn cymorth ychwanegol hwn ar waith. Rydym yn cydnabod yr heriau digynsail y mae'r pandemig yn eu cael ar wead diwylliannol bywyd Cymru ac rydym yn cymeradwyo'r gwydnwch a'r creadigrwydd a ddangosir.

Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol.

Darparodd y Gronfa Adfer Diwylliannol, a gyhoeddwyd yr haf diwethaf, £63.3m yn 2020-21 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd.

Roedd yn cynnwys tair prif elfen – gweinyddodd Cyngor Celfyddydau Cymru gyllid o £18m i gefnogi 170 o sefydliadau, gan gefnogi theatrau ac orielau celf cenedlaethol a lleol. Mae dros 1,000 o swyddi wedi'u cefnogi.

Darparodd yr elfen o'r gronfa a weinyddir gan Lywodraeth Cymru £27m i gefnogi'r sectorau diwylliant, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth. Derbyniodd dros 500 o sefydliadau gyllid.

Y Gronfa Gweithwyr Llawrydd oedd y cyntaf o'i bath yn y DU ac mae wedi darparu cyfanswm o £18m o gymorth grant i 3,500 o weithwyr llawrydd nad ydynt wedi gallu gweithio yn ystod y pandemig ac a fydd yn hanfodol i adferiad diwylliannol Cymru.

Bydd gwiriwr cymhwysedd yn fyw o ganol dydd Mercher 24 Mawrth 2021.