Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r pandemig yn parhau i greu heriau i’r sector gofal cymdeithasol, ac rydym yn benderfynol y byddwn yn ei gefnogi yn y tymor uniongyrchol er mwyn ei helpu i adfer a symud ymlaen, yn unol â’r ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi cronfa adfer gwerth £40 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon. Dyrannwyd cyllid i bob awdurdod lleol ei wario, gyda’i bartneriaid, ar weithgarwch adfer gofal cymdeithasol yn unol â’r blaenoriaethau yn y Fframwaith ar gyfer Adferiad Gofal Cymdeithasol a gyhoeddais ar 22 Gorffennaf: Fframwaith ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol: COVID-19 | LLYW.CYMRU

Mae’r gronfa yn adeiladu ar y fframwaith hwn, a’r nod yw helpu awdurdodau lleol a’u partneriaid i roi sylw i’r blaenoriaethau adfer uniongyrchol a thymor byr cytûn. Mae’r Fframwaith yn ehangu Iechyd a Gofal Cymdeithasol - COVID-19: Edrych tua’r dyfodol a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth, a bydd yn gosod seiliau ar gyfer sicrhau dyfodol cryf a chadarn i ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Yn ogystal â’r gronfa, rydym yn buddsoddi £8 miliwn ychwanegol mewn cyfres o weithgareddau adfer gofal cymdeithasol penodol, gan gynnwys:
 

  • £2.8m ar gyfer gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant a phobl ifanc sydd wedi cael y profiad o fyw mewn gofal, ac sydd ag anghenion cymhleth, gan ehangu’r ddarpariaeth hon ar draws Cymru; 
  • £2.8m ar gyfer cronfa ymyrraeth deuluol i gefnogi llesiant plant a theuluoedd drwy ddarparu cymysgedd o gymorth ymarferol ac uniongyrchol i gyfeirio achosion mewn modd diogel i ffwrdd oddi wrth y gofrestr amddiffyn plant;
  • £1m i sicrhau parhad y Gronfa Gymorth i Ofalwyr a fydd yn rhoi grantiau hyd at £300 i ofalwyr di-dâl sydd mewn angen brys ar draws Cymru;
  • £600,000 i gefnogi dull gweithredu ar lefel clwstwr ar gyfer darparu archwiliadau iechyd anabledd dysgu, gan gynyddu gweithgarwch y byrddau iechyd yn y maes hwn er mwyn cefnogi iechyd a llesiant unigolion a nodi materion iechyd posibl yn gyflym ac yn gynnar, a helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd;
  • £220,000 i helpu pobl hŷn i ail-ymgysylltu â’u cymunedau ar ôl y pandemig, drwy grwpiau cymdeithasol. Mae hyn yn helpu i gyflawni nodau’r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio a gwireddu ei gweledigaeth o greu Cymru oed gyfeillgar
  • £100,000 i hyrwyddo dull gweithredu’n seiliedig ar hawliau i bobl hŷn, a chomisiynu gwaith gyda phobl hŷn a rhanddeiliaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o sut i ymgorffori dull gweithredu’n seiliedig ar hawliau wrth gynllunio a darparu’r gwasanaethau perthnasol;  
  • £150,000 i gefnogi adferiad Cartref Diogel i Blant Hillside ar ôl y pandemig COVID-19;
  • £190,000 i wella’r cynnig llesiant i’r gweithlu gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi yn ystod ac ar ôl y pandemig. Mae’r cyllid hwn yn cydnabod pa mor hanfodol yw’r gweithlu hwn, a’r risgiau a fyddai’n codi pe bai prinder staff;
  • £140,000 ar gyfer Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gefnogi’r gwaith o weithredu’r fframwaith adferiad drwy gydgysylltu a darparu gweithgareddau cenedlaethol.