Neidio i'r prif gynnwy

Dafydd Elis-Thomas AS, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cronfa adfer chwaraeon a hamdden gwerth £14 miliwn ar gyfer 2020–21 i helpu'r sector i ymateb i'r heriau parhaus sy'n deillio o bandemig y coronafeirws ac i helpu i ddarparu cynaliadwyedd tymor hir i'r sector.

Ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth, a chyflwyno mesurau cenedlaethol i atal y feirws rhag lledaenu, daeth gweithgareddau chwaraeon a hamdden wedi eu trefnu ledled Cymru i ben yn sydyn, wrth i’r holl leoliadau chwaraeon, gweithgareddau, cystadlaethau a digwyddiadau gael eu cau, eu canslo neu eu gohirio.

Mae’r pandemig wedi cael effaith andwyol ar unigolion, clybiau a sefydliadau, yn enwedig chwaraeon lleol. Mae llawer yn parhau i wynebu’r her o hyder isel ymhlith cwsmeriaid, ynghyd ag effaith y mesurau hanfodol iawn mae angen eu rhoi ar waith i’n diogelu ni i gyd rhag y risg barhaus o’r coronafeirws, ond sydd hefyd wedi arwain at gapasiti cyfyngedig.

Bwriad y gronfa adfer chwaraeon a hamdden yw darparu cymorth hanfodol i glybiau a sefydliadau chwaraeon, darparwyr annibynnol a digwyddiadau chwaraeon sydd wedi colli cryn refeniw dros y misoedd diwethaf. Mae’r gronfa hefyd yn gwneud cyllid ar gael ar gyfer arloesi mewn canolfannau hamdden ac ymddiriedaethau hamdden, sy’n ategu’r cyllid sydd ar gael gan y gronfa galedi llywodraeth leol ar gyfer costau uwch a cholli incwm.

Rydym wedi gwrando ar bartneriaid ar draws y sectorau chwaraeon a hamdden ac wedi gweithio gyda hwy i roi'r gronfa adfer hon ar waith. Rydym yn cydnabod yr heriau enfawr a digynsail y mae'r pandemig yn eu cael ar y sector ac rydym yn cymeradwyo'r cydnerth a'r creadigrwydd a ddangosir.

Bydd y gronfa adfer hon yn cael ei gweinyddu gan Chwaraeon Cymru, ein prif asiant cyflenwi, a bydd yn ychwanegol at y cyllid sydd ar gael gan y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon a'r Gronfa Cymru Actif sydd hefyd yn cael ei gweinyddu gan Chwaraeon Cymru.