Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf am amlinellu’r egwyddorion y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu dilyn wrth gyfrannu at ddatblygu rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig. Mae’r gwaith hwnnw’n cael ei wneud yn unol ag adran 123(6) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, a ddaeth i rym yng Nghymru ar 12 Rhagfyr 2014.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru yn cyfrannu at rwydwaith ecolegol gydlynol o ardaloedd morol gwarchodedig ac rwyf am sicrhau hefyd fod ein hardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu rheoli’n dda erbyn diwedd 2016. Bydd ein cyfraniad ni yn cynnwys Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, safleoedd Ramsar, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Pharthau Cadwraeth Morol.

Mae’r rhwydwaith yn rhan bwysig o strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli ardal forol Cymru mewn modd sy’n helpu i sicrhau bod ein moroedd yn cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy. Nod y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y Môr a Physgodfeydd yw integreiddio cadwraeth a gweithgareddau morol eraill, gan anelu at wireddu gweledigaeth sy’n gyffredin ar draws y DU, sef ‘moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol ac amrywiol yn fiolegol’. Un o elfennau eraill y strategaeth ehangach yw datblygu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, a fydd yn helpu i sicrhau bod ein moroedd yn cael eu defnyddio mewn modd cynaliadwy drwy integreiddio amcanion a pholisïau morol, gan arwain at reolaeth gadarn ar ein hadnoddau morol naturiol. Rhan arall o’r gwaith yn y maes hwn fydd gweithredu’r diwygiadau i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin er mwyn cyfrannu at gyrraedd lefelau pysgota nad ydynt yn uwch na’r Cynnyrch Cynaliadwy Uchaf erbyn 2020. Nod arall yw gwell system o drwyddedu morol. Bydd yr holl fentrau hyn yn cyfrannu at sicrhau statws amgylcheddol da ar gyfer ein moroedd erbyn 2020, fel sy’n ofynnol o dan Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol.

Yn 2012, bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddefnyddio Parthau Cadwraeth Morol o fewn y rhwydwaith. Ar ôl gwrando ar y sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i’r ymgynghoriad, aethom ati, gyda chymorth Grŵp Ffocws Rhanddeiliaid, i gytuno ar ffordd ymlaen. Un o’r canlyniadau allweddol oedd asesu’r cyfraniad yr oedd y Parthau Cadwraeth Morol presennol yn ei wneud yng Nghymru, er mwyn nodi a oes unrhyw fylchau. Os oes,  mae angen nodi lle y gallai’r bylchau hynny fod, a phenderfynu a oes angen inni wneud mwy. Rydym wedi gofyn i’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal yr asesiad hwnnw.  

Bydd y gwaith o ddylunio ac asesu’r Rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn seiliedig ar yr egwyddorion isod:

  • Nodweddion – bod amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau yn cael eu diogelu ar draws y rhwydwaith. Dylid penderfynu fesul nodwedd unigol ar gyfran y nodweddion i’w cynnwys yn y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig, gan ystyried a ddylid rhoi blaenoriaeth uwch i nodweddion sy’n dirywio, sydd mewn perygl neu sy’n arbennig o sensitif ac y byddai’n fuddiol i gyfran uwch ohonynt gael eu gwarchod drwy sefydlu Ardaloedd Morol Gwarchodedig.
  • Bod yn gynrychiadol – Er mwyn sicrhau bod yr amrywiaeth fiolegol a’r ecosystemau sydd yn y môr yn cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy, ac er mwyn eu diogelu a’u gwarchod, dylid gwarchod yr ardaloedd hynny lle mae’r amrywiaeth o rywogaethau a chynefinoedd yn cael ei chynrychioli orau.
  • Cysylltedd – Mae’r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig wedi’i wasgaru ar draws ardal eang o’r môr yn hytrach nag mewn un man yn unig ac mae’n ystyried y cysylltiadau rhwng ecosystemau morol.
  • Cydnerthedd – Mae enghreifftiau tebyg o gynefinoedd a rhywogaethau yn cael eu gwarchod mewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig ym mhob ardal fioddaearyddol. Dylai’r safle fod yn ddigon o faint i gynnal ansawdd a chyflwr y nodwedd y dewiswyd y safle o’i herwydd.

Wrth i’r cyrff uchod gynnal yr asesiad o’r rhwydwaith, byddant yn ystyried y 128 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn unol â’r egwyddorion hyn. Os gwelir unrhyw fylchau, byddwn yn cydweithio â rhanddeiliaid er mwyn deall y diffygion yn y rhwydwaith ac ystyried sut orau i wireddu’n hymrwymiadau. Gallai hynny gynnwys defnyddio’r darpariaethau yn Neddf y Môr a Physgodfeydd 2009 sy’n ymwneud â Pharthau Cadwraeth Morol er mwyn gwarchod nodweddion penodol mewn ffordd wedi’i thargedu. Bydd yr asesiad yn rhoi arweiniad inni hefyd wrth inni fynd ati i ddatblygu amcanion o ran nodweddion ac o ran cadwraeth ar gyfer Ynys Skomer er mwyn cwblhau’r broses o’i hailgategoreiddio’n Barth Cadwraeth Morol.

Gwn fod angen inni wneud mwy i warchod adar yn well o fewn y rhwydwaith, a hynny yn unol â’r rhwymedigaethau sydd arnom o dan y Gyfarwyddeb Adar. Rydym yn parhau i weithio i nodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer llamidyddion yn unol â’r rhwymedigaethau sydd arnom o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Bydd fy swyddogion yn trafod y gwaith hwn gyda rhanddeiliaid yn y dyfodol agos.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig yn cael eu rheoli’n dda fel eu bod yn cyfrannu at warchod a gwella’r amgylchedd morol ac yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau rheoli eraill i adolygu’r ffordd yr ydym yn mynd ati ar hyn o bryd i reoli’r safleoedd sydd gennym yng Nghymru, a hynny gyda golwg ar sicrhau bod ein holl Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cael eu rheoli’n effeithiol yn y tymor hir.

Rwyf yn disgwyl y bydd y gwaith a amlinellir yn y datganiad hwn yn cyfrannu at sicrhau Statws Amgylcheddol Da o dan Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol ac y bydd yn cyfrannu hefyd at greu rhwydwaith ecolegol gydlynol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig o dan gonfensiwn OSPAR ar warchod yr amgylchedd morol yn rhan Ogledd-ddwyreiniol yr Iwerydd.

Bydd y datganiad hwn o egwyddorion yn cael ei adolygu’n gyson, a byddaf yn parhau i roi gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Nodiadau

Parth Cadwraeth Morol Skomer – Ar 12 Rhagfyr 2014, cafodd y dyfroedd o amgylch Ynys Skomer eu hailgategoreiddio. Maent bellach yn Barth Cadwraeth Morol yn hytrach nag yn Warchodfa Natur Forol. Newid awtomatig oedd hwn yn sgil y ffaith bod Rhan 5 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 wedi dod i rym. Yn ystod y 12-18 mis nesaf, mae Llywodraeth Cymru, yn unol â’r darpariaethau ar Barthau Cadwraeth Morol yn Neddf y Môr, yn bwriadu cyhoeddi amcanion o ran nodweddion ac o ran cadwraeth ar gyfer Ynys Skomer, gan ymgynghori’n agos â’r rheini sydd â diddordeb yn y lleoliad hwn wrth wneud hynny.


OSPAR – Confensiwn Oslo-Paris ar warchod yr amgylchedd morol yn rhan 
Ogledd-ddwyreiniol yr Iwerydd http://www.ospar.org/.