Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio ei lansio am y tro cyntaf yn 2021. Roedd yn disgrifio ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer creu Cymru oed-gyfeillgar sy'n helpu pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda. Rydym yn awyddus i sicrhau bod Cymru yn wlad lle mae pawb yn gallu edrych ymlaen at heneiddio. Heddiw, rwy'n cyhoeddi adroddiad ar gynnydd dros y 12 mis diwethaf

Dair blynedd ers ei lansio, mae'r Strategaeth wedi sicrhau bod Cymru yn chwarae ei rhan yn yr ymateb byd-eang i boblogaethau sy'n heneiddio. Ers 2022, mae £1.1 miliwn y flwyddyn o gyllid wedi’i dargedu wedi cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol (£50,000 yr un) i weithio tuag at aelodaeth o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar. Nod y Rhwydwaith yw ysgogi a galluogi dinasoedd a chymunedau ledled y byd i ddod yn fwyfwy oed-gyfeillgar – ar hyn o bryd mae'r aelodaeth yn cynnwys 1606 o ddinasoedd a chymunedau mewn 53 o wledydd, gan gwmpasu dros 330 miliwn o bobl ledled y byd. 

Hyd yma mae 8 awdurdod lleol yng Nghymru wedi ennill aelodaeth, a bydd mwyn yn dilyn yn 2025. 

Roedd cefnogi'r gwaith o ddatblygu cymunedau oed-gyfeillgar yn flaenoriaeth strategol i gyn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a fu'n helpu awdurdodau lleol ers 2019 i ddatblygu cymunedau oed-gyfeillgar ac i wneud cais am aelodaeth o Rwydwaith Byd-eang y WHO. Er nad yw wedi’i gadarnhau eto, rydym yn rhagweld y bydd Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru yn parhau i flaenoriaethu'r gwaith hwn. 

Nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagnodi sut mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda phobl hŷn ac yn eu cefnogi yn eu hardaloedd - rydym yn annog awdurdodau lleol i gynnwys pobl hŷn yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau lleol, rhwydweithiau cymdeithasol, ac amgylcheddau adeiledig. 

Mae dadansoddiad o adroddiadau awdurdodau lleol yn dangos ystod eang o weithgarwch mewn cydweithrediad â phobl hŷn, partneriaid statudol, a'r trydydd sector. Mae ein gwaith cychwynnol o edrych ar adroddiadau’r awdurdodau lleol yn dangos bod pobl hŷn yn cael budd o gyllid y rhaglen yn y ffyrdd canlynol:

  • Mwy o ymwybyddiaeth o wasanaethau lleol a chyngor ar ystod o faterion i helpu pobl i heneiddio mewn modd iach ac egnïol.
    • Y gallu i gael llais yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau lleol a chynlluniau gweithredu.
      • Y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n brwydro yn erbyn unigrwydd, gan greu rhwydweithiau cymdeithasol a hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau.
      • Y cyfle i wirfoddoli a chyfrannu at fywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru. 
      • Y cyfle i fod yn rhan o fudiad byd-eang i greu cymunedau oed-gyfeillgar. 

Yn ddiweddar, fe wnaethom ofyn i awdurdodau lleol rannu eu ffigurau sy'n dangos faint o bobl hŷn sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau oed-gyfeillgar. Cawsom ffigurau gan 19 o awdurdodau lleol, gan amcangyfrif bod tua 66,500 o bobl hŷn wedi cael budd mewn rhyw ffordd o'r rhaglen oed-gyfeillgar. Roedd dros 33,000 wedi cymryd rhan neu wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad ymgysylltu wyneb yn wyneb, gyda 2000 yn rhoi o'u hamser i ymateb i arolwg neu ymgynghoriad. Mae gwybodaeth uniongyrchol gan ddeiliaid swyddi oed-gyfeillgar wedi cyrraedd 23,000 o unigolion hŷn. 

Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y 12 mis diwethaf hyd at fis Tachwedd 2024, ac maent yn tynnu sylw at sut mae buddsoddiad blynyddol cymharol fach o £1.1 miliwn yn helpu i sbarduno datblygiad o amrywiaeth eang o brosiectau ataliol o dan arweiniad lleol sy'n dod â budd i bobl hŷn ledled Cymru. 

Trwy ymdrechu ar y cyd, mae Cymru wedi dod yn rhan o symudiad byd-eang tuag at wella polisïau a gwasanaethau i bobl hŷn i'r graddau ein bod bellach yn cael ein gweld fel enghraifft ryngwladol o arfer da gan y WHO.