Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd yng Nghymru mewn perthynas â COVID hir ers y Datganiad Ysgrifenedig diwethaf ar 20 Ionawr.
Ar 1 Mawrth, daeth y Ganolfan Tystiolaeth COVID-19 newydd ar gyfer Cymru yn weithredol. Ei phwrpas yw dadansoddi effeithiau’r coronafeirws a defnyddio tystiolaeth sy’n seiliedig ar ymchwil i helpu i ymateb i’r heriau newydd sy’n codi o ganlyniad i’r pandemig byd-eang. Bydd y ganolfan yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, y GIG, a gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddarparu’r dystiolaeth y mae ei hangen i roi sylw i lawer o’r cwestiynau a nodwyd ym mhapur y Grŵp Cynghori Technegol (gweler y ddolen isod), er mwyn gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi pobl wrth iddynt geisio gwella o effeithiau’r feirws. Mae rhaglen waith y ganolfan yn cael ei datblygu, a disgwylir iddi gynnwys gweithgarwch ymchwil i COVID hir.
Ar 3 Chwefror, cyhoeddodd y Grŵp Cynghori Technegol bapur o dan y teitl “COVID Hir" – beth ydyn ni'n ei wybod a beth sydd angen i ni ei wybod?
Roedd hyn yn ddefnyddiol gan iddo dynnu ynghyd y dystiolaeth a’r ymchwil ddiweddaraf sydd ar gael yn y DU ac yn rhyngwladol, i helpu i lywio’r polisïau presennol a’r camau y mae angen eu cymryd yn lleol. Mae hefyd yn nodi rhagor o gwestiynau ymchwil pwysig y mae angen cael atebion iddynt er mwyn deall a monitro effeithiau COVID hir ar unigolion a gwasanaethau yng Nghymru.
Ar 16 Mawrth, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ail adolygiad sy’n canolbwyntio ar themâu sy’n amlygu’r ffocws cynyddol ar gasglu tystiolaeth ymchwil sy’n ymwneud â COVID hir. Mae’r adolygiad yn nodi bylchau penodol mewn ymchwil, a’r angen parhaus i greu sail gadarn o dystiolaeth i gefnogi’r gwaith o ddatblygu modelau ar gyfer darparu gwasanaethau a dulliau o reoli gofal.
Ar 12 Mawrth, cyfarfu’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg â Gweinidogion o dair gwlad arall y DU i gytuno ar flaenoriaethau a rennir, a meysydd lle y gellir cydweithredu ar COVID hir. Bydd y materion hyn bellach yn cael eu symud yn eu blaen drwy’r gwaith ar y cyd a wneir gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wrth ymateb i’r pandemig, sef gwaith sy’n cynnwys ymchwil a modelu’r niferoedd o bobl a fydd yn dioddef o COVID hir a’r effeithiau ar wasanaethau.
O ran ymateb GIG Cymru hyd yn hyn, mae ein dull gweithredu yn parhau’n seiliedig ar ein gweledigaeth fel y’i nodir yn ein cynllun Cymru Iachach, sef osgoi niwed, hyrwyddo dulliau hunanreoli a chefnogi’r unigolion sy’n gwneud hynny, ynghyd â sicrhau bod gofal di-dor sy’n seiliedig ar werth yn cael ei ddarparu gan y gwasanaethau neu’r gweithwyr iechyd proffesiynol mwyaf priodol, naill ai yng nghartref y claf neu mor agos at ei gartref â phosibl, gan sicrhau hefyd bod y gofal a ddarperir wedi ei deilwra i ddiwallu anghenion iechyd a llesiant penodol yr unigolyn. Mae gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn tynnu ar wybodaeth a sgiliau arbenigwyr gofal eilaidd er budd yr unigolion pan fo angen gwneud hynny.
Ar 20 Ionawr, lansiwyd ap GIG Cymru i gefnogi pobl sydd â symptomau COVID hir, ac mae’r ap hwnnw wedi cael ei lawrlwytho bron i 4,000 o weithiau. Mae’n darparu cyngor gan therapyddion, seicolegwyr, deietegwyr a meddygon ymgynghorol; a gall helpu i dracio unrhyw gynnydd a wneir.
Mae’r holl Fyrddau Iechyd yn parhau i gydweithio’n agos gyda’u practisau meddygon teulu a gwasanaethau cymunedol i ddatblygu llwybrau lleol ar gyfer cael mynediad amserol at y gweithiwr proffesiynol neu’r gwasanaeth integredig mwyaf priodol ar gyfer pob unigolyn.
Ar 22 Chwefror, ysgrifennodd Andrew Goodall, y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru at Brif Weithredwyr y Byrddau Iechyd, ynglŷn â Llwybr Cymunedol Cymru Gyfan ar gyfer COVID hir. Mae’r llwybr hwn yn ategu canllawiau clinigol NICE ar gyfer COVID hir, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, ac mae’r Byrddau Iechyd yn defnyddio’r ddau hyn fel sail ar gyfer eu llwybrau lleol, gan sicrhau cysondeb o ran yr ymateb ar draws Cymru.
Mae fy swyddogion a’r Byrddau Iechyd yn ymgysylltu â grwpiau cymorth i gleifion i wrando ar brofiadau pobl. Mae’r ddealltwriaeth y maent yn ei chael o wneud hynny’n helpu i nodi a llunio’r gwelliannau pellach y mae eu hangen.
Mae Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, wedi ysgrifennu at bob gweithiwr proffesiynol yng Nghymru i dynnu sylw at ganllawiau clinigol NICE ar gyfer COVID hir, gan eu hannog i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â llwybr lleol eu Bwrdd Iechyd ar gyfer cael mynediad at wasanaethau.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi lansio tudalen ar y we sydd â dolenni at adnoddau a gwybodaeth a gafodd eu cyhoeddi helpu gweithwyr proffesiynol i ddarparu gofal effeithiol o ansawdd uchel. Mae’r dudalen yn cynnwys dolenni at dudalennau’r Byrddau Iechyd ar gyfer cefnogi pobl sy’n ceisio gwella ac egluro sut i gael mynediad at wasanaethau lleol.
Erbyn diwedd mis Mawrth, bydd gan systemau pob meddygfa y codau ar gyfer cofnodi pobl sydd â COVID hir. Mae hyn yn ddata pwysig a fydd, ochr yn ochr â’r ymchwil barhaus, yn helpu i lywio’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau lleol yn y dyfodol.