Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 21 Ebrill, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig: COVID-19 a chymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ar y dystiolaeth newydd ynghylch yr effaith anghymesur y mae COVID-19 yn ei chael ar rai unigolion o gefndiroedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME). Ynddo, rhoddais grynodeb o'r gwaith sy'n mynd rhagddo gan GIG Cymru i arwain y ffordd, fel cyflogwr trugarog a gofalgar, drwy gomisiynu rhagor o dystiolaeth a dadansoddiadau i lywio unrhyw gyngor cyhoeddus posibl a ddiweddarwyd ynghylch asesiadau risg, yr angen i hunanynysu neu warchod, risgiau meddygol a chydafiachedd mewn perthynas â phobl o gefndiroedd BAME.

Rwyf hefyd yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn dysgu'n gyflym fel y gallwn ddiogelu pobl yng Nghymru rhag niwed o ganlyniad i COVID-19 yn y ffordd orau posibl, ac rwy'n cydnabod fy nyletswydd gofal tuag at bawb sy'n gweithio'n galed yn ein system iechyd a gofal i gefnogi pobl Cymru.

Mae Cyflogwyr y GIG, y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Undebau Llafur a'r Llywodraeth wedi cydweithio fel partneriaeth gymdeithasol i ddatblygu datganiad ar y cyd sy'n nodi'n glir yr angen am ddull rhagofalus wrth i'r sail dystiolaeth ynghylch effaith wahaniaethol COVID-19 ar aelodau o'n gweithlu ddatblygu o hyd. Mae'n bleser gennyf groesawu'r datganiad hwn a chymeradwyo ei gynnwys yn llwyr.