Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Heddiw, rwy’n cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn ychwanegol gwerth £380m o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau hynny sy’n cael eu heffeithio fwyaf uniongyrchol gan bandemig COVID-19.
Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £500,000 yn derbyn 100% o ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer 2021-22 i gyd. Bydd y cynllun rhyddhad ychwanegol hwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch, ar y cyd â’n cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol, yn sicrhau bod dros 70,000 o fusnesau yng Nghymru yn talu dim ardrethi o gwbl yn 2021-22.
Bydd y cynllun yn gweithredu yn yr un ffordd ag yn 2020-21, gydag awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am weinyddu’r cynllun.
Yn ogystal, byddaf hefyd yn cynnig rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer 2021-22 i fusnesau yn y sectorau hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o dros £500,000, i gydnabod yr effaith ddifrifol mae’r pandemig wedi’i chael ar y sectorau hyn.
Mae’r pecyn sylweddol hwn yn gwneud defnydd llawn o’r cyllid canlyniadol ar gyfer Cymru a ddeilliodd o Gyllideb y Canghellor ar 3 Mawrth.
Bydd yn cefnogi busnesau ledled Cymru i lywio eu ffordd drwy’r flwyddyn nesaf a bydd yn helpu’r broses adfer o effeithiau economaidd y coronafeirws yn y tymor hwy. Mae’r cymorth yn mynd ymhellach na’r hyn a ddarperir i fusnesau yn Lloegr, gan gadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi busnesau yng Nghymru a’u helpu drwy’r amgylchiadau economaidd anodd ac anwadal hyn.