Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O’r holl drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, bysiau sy’n cael eu defnyddio fwyaf. O bob 4 taith ar gludiant cyhoeddus, mae 3 ar fws sy’n cyfateb i ryw 100 miliwn o deithiau teithwyr y flwyddyn.  Mae gan fysiau rôl allweddol o ran cysylltu cymunedau, lleihau allyriadau a chynnal gweithgarwch economaidd, ond yn bwysicach na hynny efallai, maen nhw’n cefnogi rhai o’n cymunedau a’n hunigolion mwyaf anghenus ledled Cymru.  Mae bysiau’n ganolog i’n nod o ddarparu system trafnidiaeth gyhoeddus aml-foddol, integredig, carbon isel o ansawdd uchel.

Yn dilyn y cwymp digynsail o sydyn a difrifol (o ryw 90%) yn nifer y teithwyr ar fysiau ers dechrau’r cyfnod clo a cholli bron iawn yr holl refeniw tocynnau, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu cwmnïau bysiau ar sail y galw cyn Covid-19 er mwyn gallu darparu gwasanaeth sylfaenol i fynd â gweithwyr allweddol i’r gwaith ac i gludo’r rheini sydd heb gar i’r siopau i gael bwyd a moddion hanfodol.

Daw’r Gronfa Galedi Bysiau i ben cyn hir a bydd arian o docynnau’n debygol o bara’n isel oherwydd yr angen i gadw pellter gan gyfyngu ar nifer y bobl fydd yn gallu teithio ar fysiau.  Daw’r arian i’r diwydiant bysiau i ddelio ag argyfwng COVID-19 wedyn trwy’r Cynllun Brys ar gyfer Bysiau (BES)

Caiff y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau ei gyflwyno fesul cam a bydd yn darparu rhwydwaith mwy integredig a hyblyg fydd yn ateb y galw, yn darparu gwasanaethau hyblyg ac yn neilltuo unrhyw arian ychwanegol.  Bydd yr arian brys yn cael ei ddarparu am dri mis i ddechrau, ar lefelau hanesyddol, gan roi cymorth ariannol i’r diwydiant bysiau allu cadw bysiau ar y ffyrdd ledled Cymru.

Bydd y BES yn gymhorthdal yn lle’r refeniw a gollir yn sgil colli’r capasiti ar fysiau i gludo teithwyr oherwydd COVID-19 a’r gofyn i gadw pellter.  Yn ogystal â diwallu angen tymor byr brys, mae’r cytundeb sy’n creu’r BES yn arwydd o gychwyn partneriaeth hir rhwng gweithredwyr a chyrff cyhoeddus fydd yn arwain at ailwampio rhwydwaith bysiau Cymru a chryfhau’r berthynas rhwng dulliau teithio gwahanol trwy, ymysg pethau eraill, docynnau clyfar, uno llwybrau ac amserlenni integredig. 

Bydd cwmnïau’n gweithio gydag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru i benderfynu ar y llwybrau a’r gwasanaethau y dylai cwmnïau eu darparu gyda’r arian.  Wrth gytuno ar lefel y gwasanaethau hyn, bydd gofyn ystyried y canlynol:

  • sut orau i wasanaethu gweithwyr allweddol (staff y GIG ac eraill);
  • sut i helpu’r economi i ailddechrau;
  • capasiti bysiau o gofio’r gostyngiad yn y patrwm gwasanaethau a’r angen i gadw pellter; a
  • helpu cwmnïau bysiau i ddelio â phrinder staff.  

Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru yn llunio cynllun ariannu newydd ar y cyd ag awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau. Bydd yn ymdrin â phrisiau tocynnau mewn ffordd deg a chyson, sut i ddenu teithwyr a chadw at egwyddorion Contract Economaidd a Siarter Gymdeithasol. Bydd hynny’n ein galluogi i weithio mewn partneriaeth i wella gwasanaethau ar gyfer pob teithiwr, gan ganolbwyntio ar lendid, dibynadwyedd a diogelwch – bob un yn hanfodol yn ystod y cyfnod ymadfer wrth inni weithio gyda’n gilydd i greu rhwydwaith bysiau cynaliadwy a chadarn ar gyfer y dyfodol.