Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhoddodd Deddf Cymru 2014 y pŵer i’r Senedd osod Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC). Ar ôl dod i gytundeb y byddai CTIC yn cael eu gweinyddu gan CThEM ar ran Weinidogion Cymru, cafodd y prosiect i weithredu CTIC ei sefydlu o fis Ebrill 2019.

Drwy’r prosiect hwnnw, mae Llywodraeth Cymru a CThEM wedi cydweithio’n agos i sicrhau y byddai’r systemau a’r prosesau angenrheidiol ar waith i ddarparu CTIC. Bu’r gwaith hwnnw’n gymhleth ac yn heriol, ond mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod y prosiect bellach wedi ei gwblhau’n llwyddiannus.  

Mae CThEM wedi cadarnhau bod costau terfynol y prosiect ychydig o dan £8 miliwn, sy’n gyfforddus o fewn ystod y costau a ddarparwyd ar gyfer y prosiect yn wreiddiol.   

Mae’r gwaith o weinyddu CTIC nawr wedi symud ymlaen at gam ‘busnes fel arfer’ sy’n canolbwyntio ar gynnal a diweddaru systemau, a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â CTIC. Fel y nodir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, sefydlwyd strwythur llywodraethu ffurfiol i sicrhau cysondeb o ran ansawdd y gwasanaeth i drethdalwyr Cymru, ac i ganiatáu i CThEM a Llywodraeth Cymru gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â gweithredu CTIC.