Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n gwbl annerbyniol defnyddio cosbrestrau i wahaniaethu yn erbyn unigolion sy’n aelodau o undeb llafur ac/neu wedi cymryd rhan mewn gweithredu gan undeb llafur, neu sydd wedi datgan eu pryderon, er enghraifft, ynghylch iechyd a diogelwch a/neu faterion amgylcheddol.  

Cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ym mis Mehefin yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio polisi caffael i helpu i ddileu’r defnydd o gosbrestrau yng Nghymru.

Er mwyn cefnogi’r ymrwymiad hwn, rwyf wedi rhoi cyngor i bob corff cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu canllawiau clir ar yr amgylchiadau lle gellir gwahardd y rheini sydd wedi’u cosbrestru rhag caffael cyhoeddus. Mae’r cyngor hwn i’w weld yma: Procurement Route Planner Toolkit.

Rwy’n disgwyl i’r canllawiau hyn gael eu cymhwyso i’r holl gontractau perthnasol yn y dyfodol i helpu i sicrhau nad yw unrhyw fusnes sy’n derbyn gwariant caffael cyhoeddus yn defnyddio cosbrestrau.

Rwy’n annog Llywodraethau eraill y DU i gymryd camau tebyg.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.