Neidio i'r prif gynnwy

Dafydd Elis Thomas, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristaieth

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymru yn falch iawn o'i threftadaeth chwaraeon a chyflawniadau ei champwyr chwaraeon. Rwy'n gwybod y bydd y cyfnod hwn wedi bod yn gyfnod ansicr iawn i gampwyr chwaraeon proffesiynol sy’n hyfforddi. Mae'r pandemig wedi creu heriau digynsail, gan fod hyfforddiant a chwaraeon cystadleuol wedi'u hatal a bod mesurau cloi wedi bod ar waith ers diwedd mis Mawrth.

Mae ein campwyr chwaraeon proffesiynol ar y lefel uchaf o chwaraeon a byddant yn ceisio dychwelyd i hyfforddiant mor gynnar â phosibl. Dyma eu proffesiwn; maen nhw'n ennill bywoliaeth o chwaraeon - y maes chwaraeon yw eu gweithle.

Mae rheoliadau cyfyngiadau coronafirws Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bawb weithio gartref lle bo hynny'n bosibl; lle nad yw hynny'n bosibl, rhaid i gyflogwyr gymryd pob mesur rhesymol i gydymffurfio â'r ddyletswydd ymbellhau corfforol. Mewn cyd-destun chwaraeon proffesiynol, mae hyn yn golygu y gall hyfforddiant ar gyfer ein campwyr chwaraeon proffesiynol barhau ar yr amod y gall y clybiau - fel cyflogwyr - gymryd pob mesur rhesymol i gynnal pellter corfforol yn y gweithle, p'un a yw hynny ar gae hyfforddi neu mewn stadiwm.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth clybiau yn Uwch Gynghrair Lloegr a chlybiau’r Bencampwriaeth yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr (EFL) ei gwneud yn glir eu bod am ddod â’r tymor domestig i ben. Mae'r EFL, sy'n cynnwys CPD Dinas Abertawe a CPD Dinas Caerdydd, wedi darparu arweiniad i glybiau i gefnogi eu dychweliad i hyfforddiant o 25 Mai.

Mae'r canllaw hwn yn datgan y dylai clybiau pêl-droed ddychwelyd yn raddol i hyfforddiant tîm cyntaf pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, yn seiliedig ar gyngor meddygol a gwyddonol. Mae'r EFL wedi cynhyrchu cyfres o weithdrefnau gweithredu unffurf, sy'n berthnasol i bob clwb, i sicrhau bod chwaraewyr a staff yn dychwelyd i hyfforddiant tîm cyntaf mewn amgylchedd mor ddiogel â phosibl.

Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r clybiau i sicrhau mai iechyd y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a'r staff sy'n dod gyntaf.

Mae ailddechrau hyfforddi ar gyfer ein chwaraeon proffesiynol yn gam cyntaf pwysig, a allai arwain at ailddechrau chwaraeon cystadleuol. Bydd chwaraeon yn ailddechrau yn y dyfodol, y tu ôl i ddrysau caeedig i ddechrau, gan ddarparu ffynhonnell adloniant darlledu yn ystod cyfnod pan na fydd cynulliadau torfol yn ymarferol o bosibl. Hyd yn hyn nid oes unrhyw amserlenni pendant i hyn ddigwydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n agos â Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru a'r cyrff llywodraethu cenedlaethol i ddatblygu dull cyffredin ar gyfer ail-ddechrau pob camp yn ddiogel.