Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw llygad fanwl ar ymddangosiad coronafeirws newydd sy'n tarddu o Wuhan yn Tsieina. Gan ei fod yn ymledu i ardal ddaearyddol ehangach a bod tystiolaeth ei fod yn cael ei drosglwyddo o un person i’r llall, mae’n debygol y bydd angen asesu pobl yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig.   

Mae asesiadau’n dal i gael eu cynnal i ganfod pa mor ddifrifol yw’r salwch a pha mor bell mae wedi lledaenu. Nid yw Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan Argyfwng Iechyd y Cyhoedd sy'n Destun Pryder Rhyngwladol ac nid yw'n argymell unrhyw gyfyngiadau ar deithio nac ar fasnach.

Ar hyn o bryd, bernir mai isel yw’r risg i’r Deyrnas Unedig, a hyd yma nid oes unrhyw achosion o’r coronafeirws newydd wedi cyrraedd Cymru na gweddill y DU. Rydym yn trin hwn fel digwyddiad iechyd y cyhoedd ar lefel uwch ac yn cydweithio’n agos â gwledydd eraill y DU. Mae’r bygythiad o du clefydau heintus yn un sydd gyda ni’n wastadol ac mae gan y GIG yng Nghymru, ynghyd ag ymatebwyr allweddol eraill, gynlluniau ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Mae Prif Swyddogion Meddygol ac asiantaethau iechyd y cyhoedd yn y pedair gwlad yn cydlynu eu camau gweithredu fel bod Cymru a’r DU yn barod i ymateb i unrhyw ddatblygiadau pellach o ran y digwyddiad iechyd cyhoeddus hwn.